Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar gynyddu arloesi mewn Busnesau Bach a Chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, drwy annog cydweithredu rhwng sefydliadau Addysg Uwch a Phellach a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus gyda busnesau bach a chanolig.
Hefyd bydd buddsoddiadau’r UE yn gwella perfformiad arloesi ac yn cynyddu cynhyrchiant mewn busnesau bach a chanolig drwy gynyddu’r arfer o rannu gwybodaeth rhwng sectorau. Bydd hyn yn helpu i greu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd neu well yn yr ardal drawsffiniol.
Mae’r flaenoriaeth yn canolbwyntio ar weithgarwch yn y sectorau canlynol:
Cydweithredu i warchod a gwella’r amgylchedd morol ac arfordirol er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol yn wyneb effeithiau cynyddol newid hinsawdd.
Bydd y gallu a’r wybodaeth am addasu i newid hinsawdd ar draws Môr Iwerddon a’i gymunedau arfordirol yn cynyddu drwy gomisiynu ymchwil ar y cyd, rhannu ymchwil ac arbenigedd presennol, a monitro effeithiau newid hinsawdd.
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar wella twf cynaliadwy drwy gydweithredu drwy sicrhau’r potensial gorau posib i asedau naturiol a diwylliannol yr ardal forol drawsffiniol.
Defnyddir treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i ysgogi twf economaidd drwy ddefnyddio’r asedau, gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol a chynyddu atyniad y cymunedau arfordirol yn ardal y rhaglen fel llefydd i ymweld â nhw. Un ffocws allweddol yw cefnogi ac arallgyfeirio’r sector twristiaeth er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r cymunedau arfordirol.
Mae’n edrych ar sut gellir defnyddio Môr Iwerddon a hefyd twf gwyrdd a glas fel sail i dwf economaidd, gyda’r nod o elwa ar gryfderau’r dreftadaeth unigryw a rennir a chymeriad morol ac arfordirol ardal y Rhaglen.