Pwy all ymgeisio?

Gall sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector ymgeisio am gyllid yr UE. Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un sefydliad partner o Gymru ac Iwerddon, gydag un sefydliad yn gweithredu fel partner arweiniol.

Mae dau gam i’r cyllid. Mae manylion y camau hynny isod:

Y cyfnod cyn cynllunio

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect sy’n cynnwys partneriaid o Gymru ac Iwerddon, anfonwch e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich syniad:

IrelandWalesCrossBorderProgramme@gov.wales

Wedyn efallai y byddwn yn eich gwahodd i roi manylion pellach i’n helpu ni i fesur  addasrwydd eich prosiect arfaethedig ar gyfer cyllid yr UE.

Os oes digon o dystiolaeth, bydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno i Grŵp Technegol y Rhaglen ar gyfer penderfyniad. Os bydd yn llwyddiannus, cewch wahoddiad i’r cam Cynllunio Busnes.   

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyfarwyddyd cyn cynllunio Cam 1 a cheir crynodeb o’r broses yn y ddogfen Trefniadau Gweithredu.

Cysylltiadau:

Iwerddon

Breda Curran
Swyddog Gweithredu Iwerddon Cymru
Ffôn: +353 (0)51 318101
E-bost: bcurran@southernassembly.ie

Cymru

Linda Weaver
Pennaeth Cyd-ysgrifenyddiaeth Rhaglen Iwerddon-Cymru
Ffôn: 03000 225484
E-bost: Linda.Weaver@gov.wales

 

Y cyfnod cynllunio busnes

Yn y cam hwn byddwch yn dechrau datblygu eich cynllun busnes gan weithio gyda’r Swyddog Gweithrediadau a fydd wedi’i neilltuo i chi. Bydd eich cynllun busnes yn cael ei asesu’n ffurfiol yn erbyn y meini prawf dethol canlynol:

  • Addasrwydd Strategol gan gynnwys cydweithredu ar draws ffiniau
  • Cyflawni
  • Ariannol a Chydymffurfio
  • Rheoli Gweithrediadau 
  • Dangosyddion a Chanlyniadau
  • Gwerth am Arian
  • Cynaliadwyedd Tymor Hir
  • Addasrwydd Buddsoddiad  
  • Themâu Trawsbynciol 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyfarwyddyd cynllunio busnes Cam 2 a cheir crynodeb o’r broses yn y ddogfen Trefniadau Gweithredu.

Gwneud cais am gyllid

Pwy all ymgeisio?

Mae’r ddogfen cyfarwyddyd a rheolau cymhwysedd y rhaglen yn eich helpu i ddeall a chymhwyso’r rheolau a’r amodau wrth wneud cais am gyllid yr UE. Mae’n amlinellu’r dulliau ar gyfer cyfrifo costau cymwys a’u datgan. Mae hefyd yn rhestru’r gweithgareddau cymwys a lleoliad y gweithgareddau hynny.

 

Cynllun Rhwydwaith Cymru Iwerddon

Mae Cynllun Rhwydwaith Cymru Iwerddon (WIN3) yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n teithio dramor i gyfarfod â phartneriaid posibl neu i chwilio am bartneriaid. Cynyddu nifer y partneriaethau newydd sy’n cael eu llunio yng Nghymru ac Iwerddon yw’r nod.

Mae’r cynllun yn cynnig tâl o €250.00 tuag at gostau teithio a chynhaliaeth ar gyfer yr ymgeiswyr arfaethedig. Er bod y cynllun wedi’i dargedu’n bennaf at sefydliadau gwirfoddol, elusennol a chymunedol, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus hefyd yn gymwys i wneud cais. Mae manylion llawn i’w cael yn y ddogfen rheolau, meini prawf cymhwysedd a gweithdrefnau.

Lawlwytho dogfennau

  • Applying for EU Funding – Part 1: The Pre Planning Stage (Saesneg yn unig)

    408.678 MB
  • Applying for EU Funding – Part 2: The Business Planning Stage (Saesneg yn unig)

    5079.331 MB
  • Map of eligible area (Saesneg yn unig)

    62.937 MB
  • Rheolau a chanllawiau cymhwystra rhaglenni

    1602.198 MB
  • Rheolau, meini prawf cymhwysedd a gweithdrefnau (WIN 3)

    640.577 MB
  • Cynllun Rhwydweithio Cymru Iwerddon (WIN3) – Ffurflen CYNNIG Teithio

    119.49 MB
  • Cynllun Rhwydweithio Cymru Iwerddon (WIN 3) – Ffurflen CADARNHAU teithio

    119.96 MB