Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru – Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd

Mae rhaglen Iwerddon Cymru yn un o deulu o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd sy’n cynnig cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE gydweithio er mwyn rhoi sylw i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin.                       

Rhaglen Drawswladol Gogledd Orllewin Ewrop 2014-2020

This transnational programme links the UK (including all of Wales) with Ireland, Belgium, Luxembourg and areas of France, Germany, the Netherlands and Switzerland. The managing authority is the Nord-Pas de Calais region in Lille, France.

Mae Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop yn rhaglen drawswladol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:          

  • Arloesi   
  • Carbon isel
  • Effeithlonrwydd adnoddau a deunyddia

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan Gogledd Orllewin Ewrop

Rhaglen Drawswladol Ardal yr Iwerydd 2014-2020

Atlantic area eligible areas:  links regions on the Atlantic coast including Ireland, areas of France, Spain and Portugal and areas of the UK, including all of Wales. The Managing Authority is the North Regional Co-ordination and Development Commission (CCDR) in Porto, Portugal.

Mae Rhaglen Ardal yr Iwerydd yn rhaglen drawswladol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Ysgogi arloesi a chystadleurwydd           
  • Meithrin effeithlonrwydd adnoddau
  • Cryfhau cadernid y diriogaeth yn wyneb risgiau o darddiad naturiol, hinsawdd a dynol 
  • Gwella bioamrywiaeth ac asedau naturiol a diwylliant

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan Rhaglen Ardal yr Iwerydd

Rhaglen INTERREG EWROP 2014-2020

Interreg programme covers the EU28 plus Switzerland and Norway

Mae INTERREG Ewrop yn rhaglen cyfnewid polisïau rhyngranbarthol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cryfhau ymchwil, datblygiadau technolegol ac arloesi              
  • Cystadleurwydd busnesau bach a chanolig
  • Economi carbon isel  
  • Yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan INTERREG Ewrop

URBACT III 2014-2020

Rhaglen ryngranbarthol yw URBACT III sy’n berthnasol i wledydd EU28. Ei nod yw gwella datblygiadau trefol cynaliadwy drwy annog dinasoedd Ewropeaidd i gydweithio, gan rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arfer da.                     

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: URBACT III

ESPON

Rhaglen ryngranbarthol yw ESPON 2020 sy’n cefnogi cadarnhau Rhwydwaith Arsyllfa Diriogaethol Ewropeaidd. Ei nod yw cefnogi datblygu polisïau ledled yr ardaloedd tiriogaethol yn yr UE. 

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: ESPON