Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl ichi weld gwybodaeth a gedwir gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

Mae darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi bod yn berthnasol i Raglen Iwerddon Cymru ers 31 Mai 2006. Mae’r Ddeddf yn gosod tair hawl statudol:

  • Hawl i bob person gael mynediad at wybodaeth sy’n cael ei gadw gan gyrff cyhoeddus
  • Hawl i bob person gael diwygio gwybodaeth swyddogol yn ymwneud ag ef/hi ei hun os yw’n anghyflawn, yn anghywir neu’n gamarweiniol 
  • Hawl i gael rhesymau dros benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi eich hun.

Mae’r Ddeddf yn cadarnhau hawl aelodau o’r cyhoedd i gyrraedd at wybodaeth swyddogol cyhyd ag y bo’n gyson â budd y cyhoedd a hawl unigolion i breifatrwydd.

I wneud cais am wybodaeth gennym, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig: IrelandWalesCrossBorderProgramme@wales.gsi.gov.uk

Rhaid i ni ymateb i’ch cais o fewn pedair wythnos.