Canllawiau ar gyfer cynigion prosiect a phrosiectau wedi’u cymeradwyo ar gyfer Rhaglen Cymru Iwerddon 2014-2020

Mae cyfres o ganllawiau ar gael i’ch helpu i sicrhau eich bod yn datblygu’ch prosiect wedi’i ariannu gan yr UE, a’i gyflwyno.

Gydol oes y prosiect, bydd sefydliadau yn cael cymorth parhaus i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo i gyflwyno a bodloni ei nodau a’i dargedau.

Mae’r cymorth hwn yn cynnwys:

  • cyfarfodydd adolygu, bob chwarter fel arfer, i fonitro cynnydd y prosiect 
  • arweiniad parhaus ar y broses ar gyfer gwneud hawliadau ariannol
  • gwiriadau i gynnwys agweddau gweinyddol, ariannol, technegol a ffisegol ar y prosiect

Darllenwch y Papur Trefniadau Cyflawni er mwyn ichi wybod yn union beth i’w ddisgwyl wrth ymgeisio am gyllid a chyflwyno eich prosiect.
 

THEMÂU TRAWSBYNCIOL

Rhaid i bob prosiect a gyllidir drwy raglen Iwerddon Cymru ymgorffori’r gweithgareddau y canolbwyntir arnynt wrth gyflwyno’r prosiect:

  • cyfleoedd cyfartal a heb wahaniaethu
  • datblygiad cynaliadwy  
  • cydraddoldeb rhwng merched a dynion    

Bydd y Themâu Trawsbynciol hyn yn sicrhau bod manteision cronfeydd yr UE yn cael eu rhannu’n gynhwysol rhwng pobl a chymunedau yng Nghymru ac Iwerddon - gan wella ansawdd a gwaddol pob prosiect. Darllenwch Matrics y Themâu Trawsbynciol am ragor o wybodaeth.  
 

MONITRO A GWERTHUSO

Mae’n bwysig cynllunio ar gyfer monitro a gwerthuso ar ddechrau eich prosiect er mwyn i chi allu dangos sut y byddwch yn rheoli datblygiad eich prosiect. Mae’n helpu i nodi pa mor effeithiol y bu eich prosiect o ran darparu ei nodau gwreiddiol (eeniferoedd y busnesau sydd wedi’u creu a sut y mae llawer o unigolion wedi elwa).

STATE AID

Darllenwch y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (GBER) sy’n darparu cymorth gwladwriaethol ar gyfer categorïau o gymorth sydd wedi’u heithrio o broses hysbysu ffurfiol y Comisiwn Ewropeaidd.

TARGEDAU A CHERRIG MILLTIR ALLWEDDOL

Mae'n ofynnol i sefydliadau sy'n cyflawni prosiectau a ariennir gan yr UE ddarparu data ar gynnydd prosiectau, gan gynnwys perfformiad yn erbyn targedau allweddol. Gallai’r rhain gynnwys nifer y bobl a busnesau sy’n cymryd rhan, a chanlyniadau fel y swyddi a gafodd eu creu neu gymwysterau a enillwyd.

Mae’r wybodaeth hon i’w chael yn y canllawiau yn y ddogfen ar ddiffiniadau dangosyddion, a gofynion o ran tystiolaeth a data.

Gellir gweld templed adrodd y Gronfa Ddata Mentrau yma.

 

Lawlwytho dogfennau

  • Rheolau a chanllawiau cymhwystra rhaglenni

    1261.792 MB
  • Monitoring and Evaluation Plan – Guidance document (Saesneg yn unig)

    1205.592 MB
  • Canllawiau modelau cyflawni

    1220.77 MB
  • Gwybodaeth a chyfarwyddiadau cyhoeddusrwydd

    450.637 MB
  • Papur trefniadau gweithredu

    327.361 MB
  • Canllawiau ar Ddiffiniadau Dangosyddion, a Gofynion o ran Tystiolaeth a Data

    802.792 MB
  • Public procurement guidelines (for Irish beneficiaries only) (Saesneg yn unig)

    1624.183 MB
  • Trefniadau hawlio – cyfarwyddiadau ar gyfer buddiolwyr arweiniol

    1611.046 MB
  • Dogfen gwybodaeth sy’n egluro sut mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ymdrin a data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddi

    339.704 MB
  • Matrics Themâu Trawsbynciol

    669.219 MB
  • Bwletin Hawliadau Terfynol

    327.335 MB
  • Canllawiau Arferion Gorau Paratoi i Derfynu Prosiect

    443.956 MB
  • Cwestiynau Cyffredin ar Derfynu Prosiectau

    200.962 MB
  • COVID 19 - Amodau ar gyfer Cymorth a Chwestiynau Cyffredin Fersiwn 7

    940.1 MB
  • Ymadael â’r UE - Y Cyfnod Pontio a’r Cyfnod Ar ôl Pontio: Cwestiynau Cyffredin

    769.13 MB