Gwneud cais am gyllid
Pwy all ymgeisio?
Mae’r ddogfen cyfarwyddyd a rheolau cymhwysedd y rhaglen yn eich helpu i ddeall a chymhwyso’r rheolau a’r amodau wrth wneud cais am gyllid yr UE. Mae’n amlinellu’r dulliau ar gyfer cyfrifo costau cymwys a’u datgan. Mae hefyd yn rhestru’r gweithgareddau cymwys a lleoliad y gweithgareddau hynny.
Cynllun Rhwydwaith Cymru Iwerddon
Mae Cynllun Rhwydwaith Cymru Iwerddon (WIN3) yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n teithio dramor i gyfarfod â phartneriaid posibl neu i chwilio am bartneriaid. Cynyddu nifer y partneriaethau newydd sy’n cael eu llunio yng Nghymru ac Iwerddon yw’r nod.
Mae’r cynllun yn cynnig tâl o €250.00 tuag at gostau teithio a chynhaliaeth ar gyfer yr ymgeiswyr arfaethedig. Er bod y cynllun wedi’i dargedu’n bennaf at sefydliadau gwirfoddol, elusennol a chymunedol, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus hefyd yn gymwys i wneud cais. Mae manylion llawn i’w cael yn y ddogfen rheolau, meini prawf cymhwysedd a gweithdrefnau.
Lawlwytho dogfennau
-
Applying for EU Funding – Part 1: The Pre Planning Stage (Saesneg yn unig)
408.678 MB -
Applying for EU Funding – Part 2: The Business Planning Stage (Saesneg yn unig)
5079.331 MB -
Map of eligible area (Saesneg yn unig)
62.937 MB -
Rheolau a chanllawiau cymhwystra rhaglenni
1602.198 MB -
Rheolau, meini prawf cymhwysedd a gweithdrefnau (WIN 3)
640.577 MB -
Cynllun Rhwydweithio Cymru Iwerddon (WIN3) – Ffurflen CYNNIG Teithio
119.49 MB -
Cynllun Rhwydweithio Cymru Iwerddon (WIN 3) – Ffurflen CADARNHAU teithio
119.96 MB