Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

Gwefan y llywodraeth yw Irelandwales.eu, ac mae’n cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘Ni’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.

Mae gwefan Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yn cael ei chynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i chi eu darllen. Drwy ddod i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Eiddo deallusol

Nodau perchnogol Llywodraeth Cymru a Chynulliad Rhanbarth De Iwerddon yw enwau, delweddau a logos adnabod Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.

Dylid cyfeirio ceisiadau i gael defnyddio ein logo at Dîm Iwerddon Cymru Llywodraeth Cymru.

E-bost: IrelandWalesCrossBorderProgramme@llyw.cymru

Hypergysylltu

Hypergysylltu ag irelandwales.eu. Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau’r wefan hon. Nid oes gennym wrthwynebiad i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth ar ein gwefan. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai ein tudalennau yn cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.

Perchenogion Safleoedd Porthol, os ydych am gynnwys tudalennau gwefan Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru ar safle porthol, cysylltwch â IrelandWalesCrossBorderProgramme@llyw.cymru Nodwch eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich rhif ffacs a’ch cyfeiriad e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.

Cofrestru defnyddwyr

Rhaid cofrestru i ddefnyddio rhai  o wasanaethau gwefan Llywodraeth Cymru. Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd am fwy o wybodaeth.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Mae gennym nifer o sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu'r gwaith rydym yn ei wneud. Yn anffodus, nid ydym yn gallu ymateb i'r holl ymholiadau a negeseuon a gawn drwy'r cyfryngau cymdeithasol am ein bod yn derbyn nifer mor sylweddol ohonynt. Fodd bynnag, rydym yn croesawu adborth, syniadau a chyfraniadau gan ein holl ddilynwyr am y gwaith rydym yn ei wneud.

Rheolau

Rhaid i chi gadw at reolau'r sianeli hyn. Efallai bod gan sianeli penodol reolau penodol. Mae'r mathau canlynol o ymholiadau a sylwadau yn groes i’n rheolau cyffredinol ni ac ni fyddwn yn ymateb iddynt ar unrhyw un o'n sianeli.

  • cwestiynau na ellir eu hateb drwy wybodaeth gyhoeddus (caiff y cwestiynau hyn, gan gynnwys ceisiadau posibl o ran Rhyddid Gwybodaeth, eu hateb all-lein a’u hailgyfeirio lle bo angen)
  • sylwadau ar rinweddau unrhyw bolisi, diffyg polisi neu debygolrwydd o unrhyw bolisi
  • sylwadau personol at Weinidogion neu staff
  • sylwadau sarhaus neu sylwadau sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig, yn rhywiol neu'n annymunol mewn ffordd arall
  • sylwadau neu gwestiynau rhethregol, neu’r rheini sydd wedi’u hawtogynhyrchu
  • materion yn ymwneud â phleidiau gwleidyddol - mae'n rhaid i weithwyr Llywodraeth Cymru gadw at God y Gwasanaeth Sifil, ac ni allant drafod y materion hyn.

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu neu ofyn am ddileu unrhyw gyfraniadau ar unrhyw un o'n sianeli sy'n torri rheolau'r gymuned berthnasol neu'r rheolau uchod.  Rydym hefyd yn cadw'r hawl i ddileu negeseuon defnyddwyr sy'n:

  • cymryd rhan mewn "spamio" drwy bostio'r un neges, neu neges debyg, fwy nag unwaith
  • postio cynnwys sy’n nad yw’n berthnasol i’r pwnc sy’n cael ei drafod nac i’r sianel dan sylw
  • hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau masnachol
  • cynnwys dolenni i gynnwys nad yw'n addas ar gyfer cynulleidfa gyffredinol
  • postio cynnwys a gopïwyd o rywle arall nad ydynt yn berchen ar yr hawlfraint ar ei gyfer
  • cyhoeddi gwybodaeth bersonol unrhyw un
  • dynwared person arall neu honni ar gam eu bod yn cynrychioli person neu sefydliad arall.

Os bydd defnyddiwr yn torri rheolau'r cyfryngau'r cymdeithasol, neu'n methu â chadw at y canllawiau uchod, rydym yn cadw'r hawl i’w gwahardd rhag postio ar ein sianeli.

Argaeledd

Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon o 9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus). Fodd bynnag, byddwn yn trydar neu'n postio diweddariadau y tu allan i'r oriau hyn mewn argyfwng. Mae'n bosibl na fydd rhai o lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol ar gael weithiau. Nid ydym yn derbyn y cyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth oherwydd amser segur neu drafferthion gyda'r rhyngrwyd. Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ar unrhyw adeg.

O’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio'r wefan hon.

Ymwadiad

Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau gwefan Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wefan Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.