Cynllun €1.7m yn gatalydd i lwyddiant busnesau yng Nghymru ac Iwerddon
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw yn cyhoeddi cynllun peilot gwerth €1.7m i helpu busnesau yng Nghymru ac Iwerddon i arloesi yn sectorau'r gwyddorau bywyd a bwyd a diod.