Mae tri phrosiect ymchwil o bwys sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn cyllid ychwanegol gwerth €4.5m (£3.9m) gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae prosiectau Ecostructure, Acclimatize a CHERISH i gyd yn cael eu hariannu gan raglen Interreg Iwerddon-Cymru, ac maent yn mynd i'r afael â materion pwysig i helpu cymunedau arfordirol ar ddwy ochr Môr Iwerddon i addasu i newid yn yr hinsawdd a heriau eraill.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewrop Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles.

Dywedodd Mr Miles:

“Mae rhaglen gydweithrediad Iwerddon-Cymru yn parhau i gefnogi dysgu ac arfer gorau trawsffiniol. Mae'r berthynas hon yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ac arbenigwyr o'r ddwy wlad i oresgyn heriau sy’n gyffredin iddynt, ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar ddwy ochr Môr Iwerddon.

“Bydd ail gam y tri phrosiect dylanwadol hyn yn helpu cymunedau arfordirol i addasu mewn amrywiol ffyrdd. Bydd yn rhoi hwb i fusnesau lleol, o fudd i dwristiaeth ranbarthol, yn gwella dyfroedd ymdrochi a chyfleusterau hamdden, yn ogystal â llywio penderfyniadau polisi.”

Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed ac fel Prifysgol, rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil ryngddisgyblaethol ar y cyd i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r materion a chwilio am atebion posibl.

“Rydyn felly wrth ein bodd bod cyllid yr UE wedi’i ymestyn ar gyfer prosiectau Ecostructure, Acclimatize a CHERISH, sydd oll yn canolbwyntio ar effaith newid yn yr hinsawdd ar ein cymunedau, cynefinoedd a bywydau bob dydd.”

Ecostructure
Dan arweiniad ymchwilwyr o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, derbyniodd Ecostructure €3.25 miliwn o gyllid gan yr UE yn 2017 yn y lle cyntaf, i hwyluso mwy o ddefnydd o atebion sy'n seiliedig ar natur i gynyddu gwerth ecolegol strwythurau arfordirol artiffisial ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon.

Fel rhan o'r prosiect, profwyd ymyriadau eco-beirianyddol sydd eisoes ar waith o bob cwr o'r byd ym Môr Iwerddon, ac fe ddyluniwyd rhai newydd i'w gosod ar strwythurau artiffisial fel amddiffynfeydd môr er mwyn ymchwilio i'w rôl wrth ddarparu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd morol.  

Mae'r prosiect bellach wedi derbyn €1.61m yn ychwanegol gan yr UE i barhau â'i waith am 18 mis arall mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Cork a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd Dr Joe Ironside, arweinydd prosiect Ecostructure ac Uwch Ddarlithydd yn IBERS:

"Bydd y cyllid ychwanegol yn ein galluogi i gynnal treialon ar raddfa fwy ar gyfer ein hymyriadau sy'n seiliedig ar natur, gan ddod â ni gam yn agosach tuag at eu rhoi ar waith ar raddfa fasnachol. Yn ogystal â hyn, bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu i ni ehangu ein gwaith o'r parth rhynglanwol i'r islanwol, a fydd yn ein galluogi i weithio ar rywogaethau sy'n fasnachol bwysig ac i gynnwys strwythurau alltraeth."

Acclimatize
Mae ymchwilwyr ar brosiect Acclimatize yn gweithio i wella ansawdd dyfroedd ymdrochi ar hyd arfordir gorllewinol Cymru a Môr Iwerddon. 

Maen nhw’n datblygu dulliau newydd o ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy ragfynegi risgiau a rheoleiddio dyfroedd ymdrochi yn y môr. 

Hyd yma, mae eu canfyddiadau wedi cael eu cyflwyno i gyfarfodydd yr UE ym Mrwsel ac i Sefydliad Iechyd y Byd (WH0) yn Genefa, ac wedi llywio'r broses o lunio polisïau rhyngwladol.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn ac ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, mae'r prosiect bellach wedi derbyn €1.9m ychwanegol drwy raglen Iwerddon-Cymru.

Dywedodd yr Athro Dave Kay, arweinydd y tîm sy'n gweithio yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

"Gyda'r arian ychwanegol hwn, byddwn yn gallu parhau i weithio gyda'n cydweithwyr yn Nulyn i wneud y dyfroedd ymdrochi naturiol yn fwy diogel i'r bobl sy'n eu defnyddio, gan warchod cymunedau lleol sy’n dibynnu’n economaidd ar ymwelwyr a gaiff eu denu gan draethau a dyfroedd arfordirol.

"Dros y tair blynedd nesaf, bydd ein hymchwil yn Aberystwyth yn canolbwyntio ar oblygiadau newid yn yr hinsawdd ac adfer ansawdd dŵr. Byddwn hefyd yn cynnal ymchwiliad olrhain ar un safle yng Nghymru (Gogledd Cei Newydd) yn ogystal ag olrhain ffynonellau microbaidd mewn safleoedd eraill."

CHERISH
Cofnodi effaith y newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol yw canolbwynt prosiect ymchwil CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd), a gaiff ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn cydweithrediad â'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.   

Gan weithio mewn partneriaeth ag Arolwg Daearegol Iwerddon a rhaglen Discovery Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon, mae timau'r prosiect yn defnyddio'r technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a'r ynysoedd a’r safleoedd treftadaeth forol sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a chynnydd yn lefelau'r môr.      

Mae cyllid ychwanegol o €1m o raglen Interreg Iwerddon-Cymru bellach wedi’i gyhoeddi, gan ddod â chyfanswm grant yr UE i dros €5m.

Dywedodd Dr Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Roedd stormydd Chwefror 2020 yn ein hatgoffa ymhellach o ba mor agored yw ein tirwedd arfordirol i'r elfennau. Bydd yr arian Ewropeaidd ychwanegol hwn yn ein galluogi i barhau â'n gwaith i ddatblygu dull monitro integredig ar gyfer treftadaeth arfordirol ac ehangu ein gweithgareddau gyda chymunedau arfordirol a rhanddeiliaid."