Mae Prosiect Selkie yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar ddarparu cymorth busnes i gwmnïau sy'n awyddus i arallgyfeirio i'r sector ynni morol. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i'ch cwmni ddysgu mwy am themâu allweddol gan arbenigwyr yn y sector i'ch helpu yn eich ymdrechion i fynd i mewn i'r diwydiant arloesol a chynyddol hwn a gweithio ynddo. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio a chwrdd â chwmnïau eraill.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiadau yma.