Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon wedi cyhoeddi cyngor a gwybodaeth am COVID-19 ar gyfer unigolion, busnesau a chyflogwyr. Gellir gweld y cyngor hwnnw yma:

https://gov.wales/coronavirus

https://www.gov.ie/en/campaigns/c36c85-covid-19-coronavirus/

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cynllun gweithredu yn ddiweddar ar sut mae’r DU wedi cynllunio a pha gamau pellach fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r coronafeirws (COVID-19). 

Diben y canllawiau uchod yw helpu unigolion a busnesau i baratoi ar gyfer lleihau risgiau ac effaith ac rydym yn argymell, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, y dylai’r rheini a allai elwa arnynt eu darllen.

Os bydd y coronafeirws (COVID-19) yn cael unrhyw effaith ar gyflawni eich prosiect, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) i gael rhagor o gyngor. Mae WEFO yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn esblygu’n gyflym iawn a bod y cyngor yn debygol o newid ar fyr rybudd. O ganlyniad, byddwn yn ceisio gwneud penderfyniadau cyn gynted â phosibl, ac yn edrych ar bob achos yn unigol, gan ystyried hefyd yr holl gyngor swyddogol ar y pryd.

Lawlwytho dogfennau

  • COVID-19 a Rhaglenni ERDF, ESF a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru – Amodau ar gyfer Cymorth a Chwestiynau Cy

    1202.753 MB