Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Cysylltiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru
Mae gan ein gwledydd hanes cyffredin ond mae gwahaniaethau mawr rhyngddynt hefyd. Mae gan borthladdoedd ar y ddwy ochr hanes cyffredin hefyd o gymhathu gweithwyr mudol o ddiwylliannau ac ieithoedd eraill. Mae'r prosiect hwn yn edrych ar ddiwylliannau'r ardaloedd o amgylch porthladdoedd Dulyn, Ros Láir, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, a'i nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y dreftadaeth honno, yn eu plith aelodau o'r cymunedau arfordirol eu hunain ac ymwelwyr, gan ddenu rhagor o ymwelwyr a gwella'r profiadau a gynigir iddynt. Wrth wneud hynny, bydd y prosiect yn rhoi mwy o allu i gymunedau arfordirol ddefnyddio'u treftadaeth naturiol a diwylliannol i sbarduno twf economaidd.
Nod y prosiect yw dod â bywyd a lliw i'r porthladdoedd, gan wella'r profiad a gynigir i deithwyr modern o bob oedran, beth bynnag eu diddordebau, ac annog pobl i dreulio rhagor o amser ac i wario rhagor o arian yn y trefi hynny.
Cyllideb
Partner | ERDF (€) | Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y prosiect |
---|---|---|
Coleg Prifysgol Corc | 1,183,171 | 1,478,963 |
Cyngor Sir Loch Garman (Wexford) | 200,816 | 251,020 |
CYMRU - Prifysgol y Drindod Dewi Sant | 534,718 | 668,398 |
Prifysgol Aberystwyth | 680,918 | 851,148 |
Lleoliad y Gweithgaredd
Iwerddon
- Dinas Dulyn
- Wexford
Cymru
- Ynys Môn
- Sir Benfro
Manylion cyswllt y Partneriaid
Name | Organisation | Telephone | |
---|---|---|---|
Claire Connolly | University College Cork | claireconnolly@ucc.ie | |
Peter Merriman | Aberystwyth University | prm@aber.ac.uk | |
Mary-Ann Constantine | University of Wales Trinity St David, Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies | mary-ann.constantine@cymru.ac.uk | |
Dafydd Johnston | University of Wales Trinity St David, Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies | drjohnston@cymru.ac.uk | |
Billy Byrne | Wexford Co Council | Billy.Byrne@wexfordcoco.ie |