Celtic Routes

Bydd prosiect y Llwybrau Celtaidd  yn annog ymwelwyr i grwydro ardaloedd newydd yng Nghymru ac Iwerddon ar eu ffordd i ben eu taith.
O dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ardaloedd yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion yng Nghymru a Waterford, Wicklow a Wexford yn Iwerddon. 

Mae prosiect am droi ardaloedd llai adnabyddus o fod yn ardaloedd y mae teithwyr yn gwibio trwyddyn nhw i fod yn ardaloedd twristiaeth newydd, gan annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser ynddyn nhw a manteisio ar gyfleoedd i roi hwb i economïau lleol. 

Caiff y prosiect ei ddatblygu trwy ymchwil i gwsmeriaid, digwyddiadau masnach a gweithdai yn ogystal ag ymweliadau trawsffiniol gan fusnesau yn Iwerddon a Chymru i ddod ag arbenigedd a syniadau ynghyd.
 
Yr amcan yw cynyddu apêl yr ardaloedd dan sylw i ymwelwyr, gan gynnwys trwy ddatblygu llwybrau newydd sy'n cysylltu diwylliant, treftadaeth a'r amgylchedd naturiol.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Pembrokeshire Coast National Park Authority 200,328 250,411
Carmarthenshire County Council 494,630 618,288
Ceredigion County Council 208,702 260,877
Waterford County Council 227,054 283,817
Wexford County Council 229,181 286,476
Wicklow County Council 231,855 289,818

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Waterford
  • Wexford
  • Wicklow

Cymru

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Sir Benfro

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone
Rhian Philips Cyngor Sir Gaerfyrddin MRPhillips@carmarthenshire.gov.uk 01267 242356