Mae prosiect ACT (Advanced Communication Technologies) wedi helpu busnesau bach a chanolig ledled Gorllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon i ddysgu am y cyfryngau cymdeithasol, a’u defnyddio i ddatblygu eu busnesau ar-lein.

Cafodd y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan Raglen Drawsffiniol Iwerddon Cymru yr UE, a chafodd ei arwain ar y cyd gan Awdurdod Rhanbarthol y De-ddwyrain a Bwrdd Menter Swydd Carlow yn Iwerddon. Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant oedd yn gyfrifol am ei ddarparu yng Nghymru.

Fel rhan o’r fenter, bu ACT yn cynnig cyngor ac arbenigedd i helpu busnesau i dyfu ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a’r manteision a ddaw o ddylunio gwefannau a dilyn strategaethau ar-lein.

Un o’r rhai fu’n cymryd rhan, ac sydd wedi cael cymorth gan ACT, yw’r cerddor o Sir Benfro, Harry Keyworth. Drwy’r prosiect  hwn, llwyddodd y canwr a’r cyfansoddwr hwn i hybu ei gerddoriaeth drwy greu presenoldeb ar-lein drwy Facebook, YouTube a Twitter. Llwyddodd i ddenu dilynwyr i’r graddau fel ei fod bellach yn cyhoeddi newyddion rheolaidd am y gigs y mae’n eu chwarae mewn gwahanol leoedd ledled y DU, gan gynnwys Arena 02.

Aeth ati i godi proffil ei gerddoriaeth, ac mae’r cynnydd yn ei boblogrwydd yn sgil hynny wedi ei helpu i ennill contract recordio. Mae ei EP gyntaf, Flux, ar gael ar i-tunes, ac mae ei fideo cerddoriaeth cyntaf wedi cael ei wylio filoedd o weithiau ar YouTube.

Dywedodd: 

“Heb y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio’r safleoedd rhwydweithio hyn, mae bron yn amhosibl cael unrhyw sylw sylweddol. Mae’r ffyrdd traddodiadol o ddod o hyd i waith, fel hysbysebu mewn papurau newydd, a hyd yn oed ymgeisio ar-lein, yn diflannu. Mae ACT wedi fy helpu i ymgyfarwyddo ag amrywiaeth o rwydweithiau, a rhoddodd hyn gyfle imi gyflwyno fy hun mewn ffordd egnïol a chyfeillgar, a thrwy hynny greu mwy o argraff. Mae hyn i gyd wedi fy helpu i ddod i wybod pwy yw’r bobl orau i gysylltu â nhw er mwyn imi allu rhoi’r cynnig gorau ar wireddu fy uchelgais.”