Bu chwaraewyr o raglenni pêl-droed dan gerdded 'Mwy na Chlwb' ('More than a Club') yn arddangos eu sgiliau ac yn diddanu'r dorf yn ystod gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd, UEFA yn Nulyn ar 16 Hydref.

Mae'r prosiect 'Mwy na Chlwb', o dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon yn datblygu mentrau cymdeithasol newydd ochr yn ochr â chlybiau pêl-droed proffesiynol yn y ddwy wlad. Mae'n darparu rhaglenni cymdeithasol arloesol sy'n canolbwyntio ar iechyd, addysg a chynhwysiant cymdeithasol. Cefnogir y prosiect gan Raglen Cydweithio Tiriogaethol Ewropeaidd Cymru Iwerddon. 

Menter gymdeithasol yw'r rhaglen Pêl-droed dan gerdded ar gyfer pobl hŷn sy'n hoff o bêl-droed ac sy'n dymuno cadw'n heini  gan gynnal eu diddordeb mewn chwarae pêl-droed ar yr un pryd. Nod y rheolau unigryw yw osgoi anafiadau a'i gwneud yn haws i'r rhai sydd o dan anfantais yn gorfforol i chwarae pêl-droed. Mae'n ffordd dda o gynnal ffordd egnïol o fyw'r rhai sy'n cymryd rhan.

Mae pêl-droed dan gerdded yn dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru ac yn Iwerddon ac mae'n weithgaredd cymdeithasol gwerthfawr i bobl hŷn sydd efallai yn teimlo'n ynysig neu sydd efallai eisiau parhau i chwarae'r gêm sydd wedi bod yn bwysig iddynt ers degawdau. 

Gwnaeth aelodau'r ddau dîm fwynhau eu profiadau yn Stadiwm Aviva yn fawr iawn o flaen 40,000 o gefnogwyr. Cafwyd gêm gystadleuol iawn gyda sgôr cyfartal ar y diwedd.