Mae Smart Coasts = Sustainable Communities wedi helpu i wella ansawdd ardaloedd arfordirol ar bob ochr i Fôr Iwerddon gan roi hwb i dwristiaeth a chefnogi'r economi leol. Dyma gynllun sydd wedi ennill gwobrau ac fe gafodd ei gefnogi gan raglen 2007-2013.


Dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â Choleg Prifysgol Dulyn, bu partneriaid yn cydweithio i ddatblygu system newydd i roi gwybodaeth gyfredol am ansawdd dŵr. Drwy samplo a dadansoddi yn ogystal â defnyddio gwybodaeth faes ac arfordirol mae’r system yn rhagfynegi ansawdd y dŵr. Gellid cysylltu’r canlyniadau hyn i systemau gwybodaeth electronig fel bod ymdrochwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am amodau'r dŵr.

Y nod oedd gwella dealltwriaeth am ffynonellau llygredd a helpu i gynnal a chynyddu nifer y traethau Baner Las yn unol â’r safonau Ewropeaidd ar gyfer dyfroedd ymdrochi.

Dywedodd yr Athro David Kay o Brifysgol Aberystwyth:


"Mae'r ffordd y mae Iwerddon a Cymru wedi cydweithio wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect. Roedd sgiliau cyfatebol y ddau dîm yn sicrhau bod y gwaith yn berthnasol i feysydd gwyddoniaeth a pholisi.

"Mae'r prosiect wedi helpu i ddatblygu'r systemau sydd eu hangen i ragfynegi ansawdd dŵr ymdrochi mewn amser go iawn. Diben y dull hwn o reoli dŵr ymdrochi yw gwarchod y cyhoedd drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr y traethau. Mae llwyddiant y prosiect i'w weld o edrych ar ddefnydd cyntaf y dulliau ym Mae Abertawe. Yn y fan honno, roedd y dŵr ymdrochi wedi bod mewn perygl o fethu'r safon am nifer o flynyddoedd er gwaethaf buddsoddiadau sylweddol. Ers dechrau defnyddio dulliau’r prosiect hwn, mae'r dŵr ymdrochi yno wedi cael ei ddisgrifio fel 'da' yn y ddau dymor ymdrochi diwethaf. Drwy ehangu hyn, gallai arwain o bosib at beidio â cholli 50% o'n gwobrau traethau Baner Las."

Cafodd y prosiect wobr gan fforwm diwydiant dŵr y DU yn 2015 am ymchwil berthnasol i ymarferwyr. Mae cynlluniau yn yr arfaeth i ddatblygu cynnig i adeiladu ar hyn ac i wneud gwaith pellach yn y maes.