Ar 7 Hydref 2016 bydd y prosiect cyntaf i gael ei ariannu gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 yn cael ei lansio yn Nulyn.

Nod y prosiect yw arbed ynni wrth ddosbarthu adnoddau dŵr yn Iwerddon ac yng Nghymru drwy ddatblygu a defnyddio technolegau clyfar, integredig, carbon isel. Mae'r technolegau hyn yn cynnwys systemau adennill ynni dŵr, adennill gwres o ddŵr gwastraff a systemau clyfar i reoli’r rhwydwaith. Bydd y prosiect o fudd i gwmnïau dŵr (y cyflenwyr) a defnyddwyr dŵr (y cwsmeriaid). Ar ben hyn, bydd y prosiect yn gyfrifol am ystyried effaith hirdymor y newid yn yr hinsawdd ar y cyflenwad dŵr a phatrymau’r galw am ddŵr ar gyfer y dyfodol.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Beirianneg ac Ysgol Fusnes y Drindod yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, Iwerddon ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor, Cymru. Mae’r prosiect hwn yn dilyn llwyddiant prosiect HydroBPT a ariannwyd gan Raglen flaenorol Iwerddon Cymru (2007-2013) oedd yn edrych ar y potensial i adennill ynni dŵr drwy’r gwasanaethau dŵr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, mae:

“Dŵr Uisce yn brosiect cyffrous sydd â photensial sylweddol i’r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon, felly mae’n newyddion gwych bod y bartneriaeth hon ar y gweill rhwng Prifysgol Bangor a Choleg y Drindod Dulyn .
 
“Mae’r prosiect hwn, sy’n derbyn £2m o gymorth yr UE, yn enghraifft dda o’r modd y mae rhaglen Iwerddon-Cymru yn dod â sefydliadau o’r ddwy wlad at ei gilydd i gydweithio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â heriau cyffredin.”
 

Dwr Uisce project visual to show how technology works