O dan delerau Cytundeb Ymadael y DU, bydd y DU yn parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni’r UE a ariennir drwy’r Fframwaith Ariannol Amlflwydd 2014-2020 presennol.

Mae hyn yn cynnwys Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, a Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru felly.

O ganlyniad, beth bynnag y bo’r cyfnod gweithredu, bydd y rhaglen yn parhau i gael cyllid yr UE ac yn cael ei chyflwyno fel y cynlluniwyd yn wreiddiol hyd nes y bydd y Rhaglenni yn cael eu cau yn 2023.

Dylai pob partner prosiect barhau i gyflawni gweithgareddau prosiect a chyflwyno hawliadau i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn unol â’r rheolau a’r gofynion presennol.

Wedi i Bwyllgor Monitro’r Rhaglen gytuno ar strategaeth ar gyfer sicrhau bod cymaint o gyllid â phosibl yn cael ei neilltuo ac i ddosbarthu’r adnoddau sy’n weddill o dan y Rhaglen, bydd sefydliadau yn y ddwy wlad yn gymwys i ymgeisio am ragor o gyllid fel rhan o gyfnod y Rhaglen bresennol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â IrelandWalesCrossBorderProgramme@gov.wales.