Rydym yn parhau i gynnal rhaglenni ariannu’r UE yng Nghymru. Mae ceisiadau am gyllid yr UE yn parhau i gael eu datblygu a’u cymeradwyo yn unol ag amcanion a gytunwyd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd.

Bydd Trysorlys y DU yn darparu gwarant oes gyfan i bob prosiect strwythurol a buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo cyn i’r DU adael yr UE.

Cafwyd gwarant hefyd ar gyfer buddsoddiadau i sefydliadau’r DU drwy’r rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd y mae Cymru’n elwa ohonynt, gan gynnwys y rhaglen Iwerddon Cymru, yn ogystal â rhaglenni sydd wedi’u rheoli’n uniongyrchol gan y Comisiwn Ewropeaidd, fel Horizon 2020.