Cymru’n ymrwymo i gryfhau’r berthynas gydag Iwerddon ar ôl Brexit
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ymrwymo i gryfhau’r berthynas drawsffiniol gydag Iwerddon mewn Papur Gwyn sy’n nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y trafodaethau ynghylch ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Papur Gwyn – Diogelu Dyfodol Cymru – a gyhoeddwyd heddiw yn cadarnhau’r ffordd orau o warchod buddiannau Cymru fel rhan o safbwynt negodi cynhwysfawr ac ymarferol i’r DU pan fydd Erthygl 50 o Gytuniad yr UE yn cael ei thanio.
Cryfhawyd y berthynas rhwng Cymru a’r Iwerddon drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru gwerth €100m yr UE, sy’n cefnogi cydweithredu trawsffiniol a chryfhau cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy wlad.
Mae’r Papur Gwyn yn ailddatgan ymrwymiad Cymru i gryfhau’r berthynas bwysig sydd ganddi gyda’r Iwerddon, ac i’r DU barhau i fod yn rhan o’r cyfleoedd cydweithredu tiriogaethol Ewropeaidd tu hwnt i 2020.
Mae’r Papur hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu ffyniant o amgylch prif borthladdoedd Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro – a diogelu eu swyddogaethau fel prif lwybrau rhwng Iwerddon a Chymru a’r DU yn gyfan.
Yn ymwneud yn fwy eang â phartneriaethau, mae’r Papur yn cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru wneud mwy i godi’i phroffil rhyngwladol er mwyn cynyddu masnach a buddsoddi.
Mae hefyd yn cefnogi mynediad y DU at raglenni allweddol, fel Horizon 2020 ac ERASMUS+ a’r rhai fydd yn eu holynu, o’r tu allan i’r UE. Mae Cymru wedi elwa’n sylweddol o’r rhaglenni hyn drwy gydweithio gyda phartneriaid yn yr UE, gan gynnwys yr Iwerddon, i gyflawni nodau cyffredin er budd economaidd a chymdeithasol.