STREAM (Sensor Technologies for Remote Environmental Aquatic Monitoring)

Bydd y prosiect STREAM (Sensor Technologies for Remote Environmental Aquatic Monitoring) yn dod â phartneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon ynghyd i gael gwell dealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd; gostwng cost arsylwi morol a chyflymu'r broses o ddarparu data.

Bydd STREAM yn datblygu synwyryddion sy'n medru darparu data amgylcheddol ar unwaith drwy bortholion ar y we, dyfeisiau symudol a synwyryddion wedi’u masgynhyrchu i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddiogelu a gwella dyfroedd Cymru ac Iwerddon. Bydd y data a gesglir yn cael eu rhannu'n lleol er mwyn i gymunedau arfordirol gael gwybodaeth am effaith leol y newid yn yr hinsawdd.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Sefydliad Technoleg Waterford €1,690,118 €2,112,647
Prifysgol Abertawe €1,726,993 €2,158,741
Sefydliad Technoleg Corc €911,070 €1,138,837

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Corc
  • Kerry
  • Kilkenny
  • Tipperary
  • Waterford
  • Wexford

Cymru

  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Benfro
  • Abertawe

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone
Dr Joe O'Mahony Sefydliad Technoleg Waterford jomahony@wit.ie   +353(0)860889406
 Prof David Gethin Prifysgol Abertawe  D.T.Gethin@swansea.ac.uk  +44 (0)1792 295535
 Cormac Gebruers Sefydliad Technoleg Corc  Cormac.Gebruers@nmci.ie  +353(0)863886353