CALIN

Mae'r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) yn brosiect pedair mlynedd o dan INTERREG Iwerddon-Cymru sy'n cefnogi rhaglenni ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig y sector gwyddorau bywyd.

Bydd CALIN yn cryfhau cysylltiadau economaidd ac yn ysgogi cydweithio trawsffiniol i gefnogi datblygiadau economaidd a gwyddonol yn y maes gwyddorau bywyd yng Nghymru ac Iwerddon.

Caiff hyn ei gyflawni drwy gysylltu busnesau â sefydliadau academaidd yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys chwe sefydliad addysg uwch:

  • Prifysgol Abertawe (yr Arweinydd)
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Coleg Prifysgol Dulyn
  • Sefydliad Cenedlaethol Tyndall, Corc
  • Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway

Yn benodol, bydd CALIN yn arwain at ragor o rannu gwybodaeth rhwng y canolfannau sy’n rhagori ym myd addysg uwch a busnesau bach a chanolig. Bydd hefyd yn cefnogi technolegau, cynnyrch a gwasanaethau newydd fel nanotechnoleg a all arwain at ddatblygiadau sylweddol.

Mae'r prosiect yn pontio ymchwil a datblygu, arloesi, datblygu masnachol a’r ddarpariaeth o swyddi gwerthfawr. Bydd agwedd arbenigol CALIN yn gosod sylfaen ar gyfer arloesi ym myd diwydiant i gryfhau'r sector gwyddorau bywyd, fydd yn ei dro'n dod â chyfoeth a llewyrch i'r rhanbarthau.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Prifysgol Abertawe 2,925,374 3,768,253
Coleg Prifysgol Dulyn 1,651,625 2,097,530
Prifysgol Bangor 1,250,771 1,596,682
Prifysgol Caerdydd 1,146,554 1,445,895
•Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway 1,055,943 1,358,727

Lleoliad y Gweithgaredd

Manylion cyswllt y Partneriaid