Heddiw, mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth €2m i annog mwy o ymwelwyr i grwydro ardaloedd llai adnabyddus Cymru ac Iwerddon.

 
Bydd prosiect y Llwybrau Celtaidd, gyda €1.6m o arian yr UE, yn annog ymwelwyr i grwydro ardaloedd newydd yng Nghymru ac Iwerddon ar eu ffordd i ben eu taith. 
 
Wrth i gefnogwyr rygbi o Gymru droi'u traed am Ddulyn y penwythnos hwn ar gyfer gêm pencampwriaeth y chwe gwlad yn erbyn Iwerddon, teithwyr fel y rhain, a'r rheini sy'n teithio i Gymru'n rheolaidd ar gyfer digwyddiadau tebyg, yw targed y prosiect. 
 
O dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ardaloedd yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion yng Nghymru a Waterford, Wicklow a Wexford yn Iwerddon. 
 
Mae prosiect y Llwybrau Celtaidd am droi ardaloedd llai adnabyddus o fod yn ardaloedd y mae teithwyr yn gwibio trwyddyn nhw i fod yn ardaloedd twristiaeth newydd, gan annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser ynddyn nhw a manteisio ar gyfleoedd i roi hwb i economïau lleol. 
 
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas AC:
 
"Mae Llwybrau Celtaidd yn esiampl wych o'r ffordd y gallwn ddefnyddio arian yr UE i helpu ardaloedd trawsffiniol yn Iwerddon a Chymru trwy annog ymwelwyr i fwynhau golygfeydd, croeso a diwylliant ardaloedd heblaw'r cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd bob tro. Trwy helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, bydd y prosiect yn sbarduno'r economi ac yn creu ac yn diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth.
 
"Yng ngoleuni Brexit, mae hi nawr yn bwysicach nag erioed  ein bod yn cefnogi ac yn dathlu'r ddolen Geltaidd gref rhwng y ddwy wlad."
 
Caiff y prosiect ei ddatblygu trwy ymchwil i gwsmeriaid, digwyddiadau masnach a gweithdai yn ogystal ag ymweliadau trawsffiniol gan fusnesau yn Iwerddon a Chymru i ddod ag arbenigedd a syniadau ynghyd.
 
Yr amcan yw cynyddu apêl yr ardaloedd dan sylw i ymwelwyr, gan gynnwys trwy ddatblygu llwybrau newydd sy'n cysylltu diwylliant, treftadaeth a'r amgylchedd naturiol.
 
Bydd y prosiect cyffrous newydd hwn yn ategu Ffordd Cymru, prosiect strategol deng mlynedd a gafodd ei lansio ar y farchnad ryngwladol llynedd i ddathlu'r amrywiaeth o lwybrau sydd gennym  a llwybrau sydd yn yr arfaeth a rhoi'r hyder i ymwelwyr o bob rhan o'r byd i grwydro mwy ar Gymru.
 
Dywedodd Gweinidog Cyllid a Gwariant a Diwygio Cyhoeddus Llywodraeth Iwerddon, Paschal Donohoe TD:
 
"Twristiaeth yw un o sectorau economaidd pwysicaf Iwerddon ac mae ganddo botensial mawr i chwarae mwy o ran yn adfywiad economaidd Iwerddon. Ar y penwythnos, byddwn yn croesawu cefnogwyr rygbi o Gymru i Lansdowne Road. Mae'r prosiect Llwybrau Celtaidd yn dangos sut y gall arian o'r UE ein helpu i ddatblygu twristiaeth mewn cyd-destun trawsffiniol er lles y ddwy wlad."
 
Dywedodd y Cyng Peter Hughes Griffiths, aelod o'r bwrdd gweithredol dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth ar Gyngor Sir Caerfyrddin: 
 
"Dyma gyfle rhagorol i ddenu'r bobl sy'n pasio trwy Dde Cymru ac Iwerddon wrth iddyn nhw deithio i ben eu taith. Rydym am weld pobl yn aros i werthfawrogi harddwch ein cefn gwlad a'n glan-môr, i ymweld â'r amrywiaeth aruthrol o atyniadau ac i aros, bwyta a mwynhau fel ein gwesteion cyn parhau â'u taith. Y gobaith yw y down nhw nôl dro ar ôl tro a dweud wrth y byd beth sydd gennym i'w gynnig."
 
Mae'r prosiect Llwybrau Celtaidd yn derbyn peth o'i arian trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru'r UE sy'n cefnogi prosiectau cydweithredol rhwng Cymru ac Iwerddon i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd economaidd a chymdeithasol cyffredin.