Parhad cydweithio Ewropeaidd yn hanfodol i Gymru medd y Gweinidog Cyllid
Mae’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn hanfodol bwysig parhau i feithrin cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd, ar drothwy ymweliad â’r Gogledd i drafod y cydweithio sy’n digwydd rhwng Iwerddon a Chymru yn y diwydiant pysgodfeydd.
Bydd y Gweinidog Cyllid yn cyfarfod â gwyddonwyr o Brifysgol Bangor a chynrychiolwyr y diwydiant er mwyn clywed am hynt dau brosiect trawsffiniol sydd wedi anelu at ysgogi twf yn niwydiant pysgod cregyn y ddwy wlad. Maent hefyd yn asesu’r effeithiau y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gael ar Fôr Iwerddon.
Mae’r prosiectau yn rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru yr UE. Dyma Raglen sy’n cryfhau’r cysylltiadau economaidd a’r cydweithio sy’n digwydd rhwng y ddwy genedl. Mae’r rhaglen yn un o blith ystod eang o fentrau cydweithredu tiriogaethol yr UE y mae Cymru yn rhan ohoni ar hyn o bryd.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae Môr Iwerddon yn adnodd hanfodol bwysig sy’n cael ei rannu rhwng y ddwy genedl, mae’n sefyll i reswm felly, bod cydweithio yn hanfodol. Rhaid cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd cyffredin sy’n codi o’r newidiadau amgylcheddol a’r newidiadau yn yr hinsawdd.
“Mae’r prosiectau hyn yn manteisio ar arbenigedd gwyddonwyr Cymru ac Iwerddon er mwyn helpu i ddiogelu bywyd morol a chael goleuni pellach ar ffyrdd o ddiogelu a datblygu’r diwydiant pysgodfeydd yma ac yn Iwerddon. Maent yn enghreifftiau gwych o gydweithio er mwyn cael atebion i heriau trawsffiniol.“
Fel rhan o brosiectau Bluefish a’r Irish Sea Portal, mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â Phrifysgolion eraill yng Nghymru ac Iwerddon yn ogystal â Sefydliad Morol Iwerddon a’i awdurdod datblygu bwyd môr, y Bord Iascaigh Mhara.
Mae’r prosiectau hyn yn ymchwilio i symudiadau mudol pysgod masnachol, y peryglon o du rhywogaethau estron a pha effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gael ar iechyd y cyflenwadau o bysgod.
Hefyd, mae busnesau pysgodfeydd yn elwa ar ganllawiau er mwyn addasu i newidiadau amgylcheddol Môr Iwerddon ac ar gefnogaeth i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd masnachol newydd er mwyn datblygu’r diwydiant.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Mae’r ddau brosiect hwn, Bluefish a’r Irish Sea Portal yn enghreifftiau gwych o ymchwil rhyngwladol sydd o fudd i gymunedau arfordirol Cymru ac Iwerddon.
“Drwy gydweithio â phrifysgolion, cyrff o fewn y diwydiant, a phartneriaid masnachol y ddwy wlad, mae arbenigedd Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, sydd ymysg y mwyaf blaenllaw yn y byd, yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau’r rheini sy’n gweithio yn y sector morol.”
Ychwanegodd Mark Drakeford:
“Mae prifysgolion a busnesau o Gymru yn elwa’n sylweddol o ystod eang o fentrau sy’n cefnogi cydweithredu drwy Ewrop gyfan drwy Raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae’n hollbwysig ein bod yn dal ein gafael ar y cyfleoedd hyn fel rhan o unrhyw berthynas newydd ag Ewrop.”