Ar 26 Medi, lansiwyd prosiect Bluefish yng Nghanolfan Morol Cymru, Prifysgol  Bangor.

Mae prosiect Bluefish, gyda chefnogaeth o €5.5m o gronfeydd yr UE drwy raglen Iwerddon Cymru, yn ymchwilio i effaith y newid a ragwelir yn yr hinsawdd ar yr adnoddau morol ym Môr Iwerddon. 

Dan arweiniad Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon, bydd y prosiect yn asesu sut y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar iechyd y stoc o bysgod, symudiad mudol pysgod masnachol a risgiau a wynebir oherwydd rhywogaethau anfrodorol newydd. 

Prosiect Bluefish

Dilynwch @BlueFish_EU ar Twitter