Ddydd Iau, 12 Hydref yn University College Dublin, cynhelir digwyddiad am ddim a fydd o ddiddordeb i unrhyw un sy’n gweithio ym maes rheoli dyfroedd ymdrochi. 

Bydd prosiect Acclimatize yn helpu i wella ansawdd glannau moroedd Cymru ac Iwerddon, gan helpu i hybu twristiaeth a chefnogi gweithgareddau morol, gan gynnwys cynaeafu pysgod cregyn. 

Dan arweiniad University College Dublin ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect yn nodi ffynonellau o lygredd a’u heffaith ar ddyfroedd ymdrochi o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth ariannol gwerth ‎€5.3m gan raglen cydweithredu Iwerddon Cymru. 

Gwefan Acclimatize 

Lawlwytho dogfennau