Irish Sea Portal Pilot (ISPP)

Nod y peilot hwn yw ymchwilio i ddichonoldeb prosiect mwy (Porthol Môr Iwerddon (ISP)) a fydd yn darparu platfform i fodloni’r gofyn am lif gwybodaeth er mwyn hybu twf mewn pysgodfeydd a dyframaethu. Bydd y peilot yn helpu i ffurfio un clwstwr er mwyn profi egwyddorion yr ISP. Bydd  y clwstwr hwn yn canolbwyntio ar astudiaeth o larfae pysgod cregyn ifanc a’u hannedd ar wely’r môr. Bydd yn ymchwilio i leoliadau safleoedd posibl ar gyfer casglu hadau pysgod cregyn a dichonoldeb defnyddio casglwyr hadau yn ardal  yr astudiaeth. Bydd y clwstwr hwn yn ehangu dealltwriaeth o symudiad larfae pysgod cregyn ym Môr Iwerddon a’i gyffiniau, wedi ei ddilyn gan batrymau aneddiadau larfae sy’n cael eu diffinio fel hadau. Mae hwn yn adnodd sy’n cael ei rannu ar draws Môr Iwerddon sy’n croesi ffiniau rhanbarthol a chenedlaethol, ac sy’n cael effaith economaidd sylweddol mewn rhan o ddiwydiant sy’n werth tua 254m ewro.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Bangor University 667,172.88 833,967.56
Bord Iascaigh Mhara 441,992.15 552,491.15

Lleoliad y Gweithgaredd

Manylion cyswllt y Partneriaid