Hanes o lwyddiant oedd hanes prosiect Hydro BPT, a hynny o ganlyniad i’r cydweithio a fu rhwng Iwerddon a Chymru yn ystod 2007-2013. Bu’r prosiect yn ymchwilio i ffordd o gynhyrchu ynni carbon isel o’r rhwydwaith sy’n cyflenwi dŵr i gartrefi ac adeiladau eraill, drwy ddefnyddio tyrbinau ynni micro-hydro (MHP).

Bu’r prosiect yn astudio sut i adennill ynni drwy ddefnyddio’r tanciau torri pwysedd, (BPTs), sy’n lleihau’r pwysedd yn y rhwydwaith cyflenwi dŵr, i gynhyrchu trydan glân.

Y nod oedd lleihau’r allyriadau carbon sy’n cael eu cynhyrchu wrth gyflenwi, trin a gwaredu dŵr yfed, gan leihau’r gost sy’n gysylltiedig â chyflenwi dŵr sydd wedi ei drin. Byddai’r diwydiant dŵr wedyn yn gallu defnyddio’r ynni a gynhyrchir a’i werthu i’r Grid Cenedlaethol.

Llwyddiant y prosiect

Roedd y prosiect yn cael ei weithredu ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod Dulyn, a aeth ati i archwilio dros 300 o safleoedd seilwaith dŵr ledled Cymru ac Iwerddon i weld pa mor addas oeddent ar gyfer adennill ynni micro-hydro.

Drwy’r astudiaeth hon, daeth i’r amlwg y byddai’n bosibl adennill dros 10 GWh bob blwyddyn – sy’n cyfateb i arbed €2.5 miliwn a thros 10,000 tunnell o allyriadau CO2.

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r prosiect Dŵr Uisce  yn adeiladu ar lwyddiant Hydro BPT, a hwn yw’r prosiect cyntaf i gael cyllid o dan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru ar gyfer 2014-2020.

Nod Dŵr Uisce yw gwneud y rhwydwaith cyflenwi dŵr yn fwy effeithlon drwy ddatblygu technoleg carbon isel newydd sy’n arbed ynni, gan gynnwys tyrbinau ynni micro-hydro.

Bydd y dechnoleg yn cael ei threialu yn y ddwy wlad cyn iddi gael ei lansio’n fasnachol

Dywedodd John Gallagher o Brifysgol Bangor:

“Ein nod yw arddangos y dechnoleg newydd a fyddai o fantais i gynhyrchwyr dŵr a defnyddwyr dŵr, gan y byddai’n  lleihau’r defnydd o ynni i’r naill ochr a’r llall. Gallai hynny leihau’r gost o gyflenwi dŵr, o safbwynt y cynhyrchwyr ac o safbwynt y defnyddwyr, a byddai’r biliau dŵr ac ynni is yn gwella lefel y gystadleuaeth yn y maes.”