Croeso i'n gwefan a’n blog newydd
Mae'n bleser gennym gyflwyno ein gwefan a’n blog newydd ar gyfer Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-20! Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn ystod y misoedd diwethaf i greu gwefan sy'n ein galluogi i ryngweithio a rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid, sefydliadau a busnesau sy'n elwa ar Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-20, neu sydd â diddordeb ynddi.
Rydym yn gobeithio y bydd ein gwefan newydd yn hawdd ei defnyddio ac y cewch ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd. Ewch i weld rhai o nodweddion newydd ein gwefan:
- Tudalen ‘Newyddion’ – Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda newyddion, digwyddiadau a straeon llwyddiant. Gallwch hefyd ddefnyddio ein hidlyddion i ddod o hyd i wybodaeth benodol.
- Tudalen ‘Prosiectau’ – Mae'r dudalen hon yn rhestru prosiectau a gymeradwywyd ar gyfer Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020. Gallwch ddefnyddio ein hidlyddion i weld prosiectau a gefnogir gan bob un o flaenoriaethau ein rhaglen.
- Map rhyngweithiol – Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod pa brosiectau sy'n cael eu rhedeg yn yr ardaloedd cymwys yng Nghymru ac Iwerddon, bwrwch olwg ar ein map rhyngweithiol.
Hoffem glywed eich barn
Rydym yn croesawu'ch adborth i'n helpu i wella'r wefan yn barhaus. Anfonwch unrhyw sylwadau drwy e-bost i: Wefo.WebsiteUpdates@wales.gsi.gov.uk
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!