Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru – Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
Mae rhaglen Iwerddon Cymru yn un o deulu o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd sy’n cynnig cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE gydweithio er mwyn rhoi sylw i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin.
Rhaglen Drawswladol Gogledd Orllewin Ewrop 2014-2020
Mae Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop yn rhaglen drawswladol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Arloesi
- Carbon isel
- Effeithlonrwydd adnoddau a deunyddia
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan Gogledd Orllewin Ewrop
Rhaglen Drawswladol Ardal yr Iwerydd 2014-2020
Mae Rhaglen Ardal yr Iwerydd yn rhaglen drawswladol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Ysgogi arloesi a chystadleurwydd
- Meithrin effeithlonrwydd adnoddau
- Cryfhau cadernid y diriogaeth yn wyneb risgiau o darddiad naturiol, hinsawdd a dynol
- Gwella bioamrywiaeth ac asedau naturiol a diwylliant
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan Rhaglen Ardal yr Iwerydd
Rhaglen INTERREG EWROP 2014-2020
Mae INTERREG Ewrop yn rhaglen cyfnewid polisïau rhyngranbarthol sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Cryfhau ymchwil, datblygiadau technolegol ac arloesi
- Cystadleurwydd busnesau bach a chanolig
- Economi carbon isel
- Yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: gwefan INTERREG Ewrop
URBACT III 2014-2020
Rhaglen ryngranbarthol yw URBACT III sy’n berthnasol i wledydd EU28. Ei nod yw gwella datblygiadau trefol cynaliadwy drwy annog dinasoedd Ewropeaidd i gydweithio, gan rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arfer da.
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: URBACT III
ESPON
Rhaglen ryngranbarthol yw ESPON 2020 sy’n cefnogi cadarnhau Rhwydwaith Arsyllfa Diriogaethol Ewropeaidd. Ei nod yw cefnogi datblygu polisïau ledled yr ardaloedd tiriogaethol yn yr UE.
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys: ESPON