Cyfarfod Fforwm Iwerddon Cymru 2023

Cynhaliwyd trydydd Fforwm Gweinidogol blynyddol Iwerddon Cymru yng Ngogledd Cymru ar 19-20 Hydref.

Ymhlith y rheini a fu yn y cyfarfod, a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yr oedd Micheál Martin, Tánaiste, y Gweinidog Materion Tramor ac Amddiffyn, a Simon Harris TD, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth.

Yn y fforwm eleni, hoeliwyd sylw ar gyfleoedd cyffredin ym maes ynni adnewyddadwy, datblygu sgiliau, ac iaith, o dan Fframwaith Môr Iwerddon a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-2025.

Yn ystod yr ymweliad â Gogledd Cymru, bu’r Fforwm Gweinidogol yn ymweld ag amryfal safleoedd, gan gynnwys: Porthladd Caergybi; cyfleusterau llanw a hydrogen Morlais a

M-Sparc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae M-Sparc wedi cael cymorth yn y gorffennol drwy Gyllid Ystwyth Llywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau â busnesau yn Iwerddon.

Cafodd prosiectau eraill a ariannwyd drwy Cymru Ystwyth eu harddangos hefyd yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys y gwaith ym maes gwyddor bywyd a wnaed gan rhwydwaith CALIN, mentrau morol cynaliadwy Prifysgol Bangor, a gwaith Prifysgol Aberystwyth ar greu cyfleoedd ar sail yr hanes a'r diwylliant sydd gennym yn gyffredin.

Roedd y Fforwm yn cydnabod y cyfleoedd i'r sefydliadau ar ddwy ochr Môr Iwerddon gydweithio drwy raglen Horizon Ewrop. Wrth edrych ymlaen at 2024, bydd y Fforwm yn ystyried sut y gellir dyfnhau’r cydweithredu hwnnw.