Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi (24 Gorffennaf 2018) y bydd y cyllid a ddyfernir i sefydliadau drwy  raglenni’r UE (gan gynnwys Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd) cyn diwedd 2020 yn cael ei warantu.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y gall y rhai sy’n gwneud ceisiadau i Raglen Iwerddon Cymru barhau i geisio am gyllid hyd at ddiwedd 2020, beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau rhwng y DU a’r UE. Bydd yr holl geisiadau a fydd wedi’u cymeradwyo a’u contractio cyn diwedd 2020 yn cael gwarant llawn o gyllid ar gyfer oes eu prosiectau.

Mae gwybodaeth am warant estynedig Llywodraeth y DU ar gael yma