Bydd mwy na €1m o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd i gefnogi twf y diwydiant pysgod cregyn yng Nghymru ac Iwerddon.  

Bydd yr arian yn galluogi Prifysgol Bangor ac asiantaeth datblygu pysgod cregyn Iwerddon, Bord Iascaigh Mhara, i dreialu rhaglen ymchwil a datblygu wedi’i thargedu at wella cynhyrchiant a chynyddu twf y busnes pysgod cregyn yn y ddwy wlad.

Bydd Cynllun Peilot Porthol Môr Iwerddon yn ymchwilio i symudiadau pysgod cregyn yn y môr. Y nod yw lleihau costau dod o hyd i leoliad grawn pysgod cregyn a helpu i gynyddu’r cregyn gleision a’r pysgod cregyn sydd ar gael i’r diwydiant.  

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, sy’n un o raglenni’r UE. Nod y rhaglen hon yw cryfhau cysylltiadau economaidd a symbylu’r ddwy wlad i gydweithio mewn meysydd fel arloesi, newid yn yr hinsawdd, adnoddau diwylliannol a naturiol, treftadaeth a thwristiaeth.   

Mae grawn pysgod cregyn yn adnodd sy’n cael ei rannu ar draws Môr Iwerddon. Mae’n croesi ffiniau cenedlaethol ac yn dod â budd ariannol sylweddol. Rhwng Cymru ac Iwerddon, mae’r diwydiant werth tua €250m.

Bydd y cynllun peilot dwy flynedd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig a bydd hefyd o gymorth i’r diwydiant fanteisio ar adnoddau ac arbenigedd Prifysgol Bangor a Bord Iascaigh Mhara. Bydd yn cefnogi cyfleoedd pellach i ehangu’r diwydiant a chreu swyddi newydd.  

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd dros Gyllid Llywodraeth Cymru:

“Rydyn ni wedi bod yn glir am y manteision i Gymru o fod yn rhan o raglenni’r UE sy’n croesi ffiniau. Mae hon yn enghraifft dda iawn o sut y gall gwledydd weithio gyda’i gilydd i elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd i’r naill wlad a’r llall. 

“Mae hwn yn ddiwydiant gwerthfawr i’r ddwy genedl, ac mae ganddo’r potensial i dyfu mwy eto. Rwyf i wrth fy modd bod mwy na €1m o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi i gefnogi’r uchelgais honno.”


Dywedodd Paschal Donohoe TD, Gweinidog dros Wariant Cyhoeddus a Diwygio Iwerddon:

"Mae Môr Iwerddon yn fwy na ffin sy’n gyffredin rhwng y ddwy wlad – mae’n adnodd cyffredin hefyd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych arall o sut y gall arian yr UE helpu’r ddwy wlad i weithio gyda’i gilydd i rannu’r adnodd hwnnw."


Dywedodd yr Athro David Thomas, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd:

“Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar flynyddoedd o arbenigedd mewn pysgodfeydd cynaliadwy a bioleg pysgod cregyn yn ein Ysgol Gwyddorau Eigion. Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda phartneriaid i gefnogi pysgodfeydd cynaliadwy sydd o fudd i economïau arfordirol, ac rydyn ni wrth ein boddau o gydweithio â’n swyddogion cyfatebol yn Iwerddon i gynyddu maint y diwydiant pysgod cregyn pwysig yn y ddwy wlad.”