Bydd pump o borthladdoedd Cymru a Môr Iwerddon yn elwa ar brosiect newydd gwerth €2.6m sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i helpu i'w trawsnewid o fod yn fannau y mae pobl yn pasio drwyddynt yn unig i fod yn fannau allweddol i dwristiaid.

Bydd y prosiect yn gwella cyfleoedd twristiaeth, profiadau twristiaid ac yn cefnogi bywoliaeth cymunedau arfordirol bob ochr i Fôr Iwerddon. 

Bydd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi'r newyddion am y Prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, sy'n rhan o Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, yn ystod ymweliad â Gweriniaeth Iwerddon. 

Bydd cyfleoedd twristiaeth newydd yn cael eu datblygu fel rhan o'r prosiect rhwng pum tref borthladd a'u cymunedau arfordirol cyfagos bob ochr i Fôr Iwerddon – Dulyn, Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro – a bydd yn elwa ar ymchwil academaidd a phartneriaethau cymunedol.

Nod y prosiect yw bywiogi'r porthladdoedd, a gwella profiad teithwyr modern o bob oed a diddordeb. Bydd hefyd yn eu hannog i dreulio mwy o amser yn y trefi hyn a gwario mwy o'u harian yno. Bydd rhanddeiliaid twristiaeth a chymunedau lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan i godi ymwybyddiaeth y twristiaid sy'n pasio drwy'r ardaloedd hyn o'u hanes cyfoethog. 

Yn benodol, bydd y timau prosiect yn cynhyrchu gwybodaeth mewn amryw o fformatau. Byddant yn gweithio gydag awdurdodau porthladd, cludwyr trafnidiaeth, asiantaethau twristiaeth, ac artistiaid ac awduron lleol i greu safleoedd newydd i dwristiaid a phethau newydd iddynt eu gweld. Byddant yn ysgogi ymweliadau gan dwristiaid sydd heb ymweld ag ardal o'r blaen, ac yn cynhyrchu rhagor o draffig ar y we. Yn ogystal â hynny, bydd gwaith creadigol hefyd yn cael ei gomisiynu yn y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a ffilm. Bydd technoleg ddigidol, gan gynnwys apiau a'r cyfryngau cymdeithasol, yn cael ei defnyddio i geisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Bydd deunydd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg yn cael eu hintegreiddio'n llawn yn nghynnwys y prosiect.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:

Dw i mor falch o gael datgelu’r prosiect newydd hynod gyffrous hwn, a fydd yn helpu i drawsnewid pump o borthladdoedd Cymru a Môr Iwerddon yn gyrchfannau twristiaeth bywiog. 

Mae ein porthladdoedd yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n heconomi, drwy ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae busnesau'r DU a Chymru yn dibynnu ar ein porthladdoedd ar gyfer symud eu nwyddau yn effeithlon ac yn gyflym rhwng Cymru ac Iwerddon.

Bydd y prosiect newydd hwn yn helpu i wella ein porthladdoedd ymhellach, drwy ddod â'u treftadaeth ddiwylliannol unigryw yn fyw. Gall pobl wedyn ddeall y rolau economaidd a diwylliannol cyfoethog maen nhw wedi eu chwarae yn ein hanes ni, a pha mor allweddol maen nhw heddiw ac y byddan nhw hefyd yn y dyfodol.

Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Goleg y Brifysgol Cork ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford.

Dywedodd yr Athro Claire Connolly o Goleg y Brifysgol Cork: 

Mae Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn ceisio creu dyfodol newydd ar gyfer trefi porthladd ym masin Môr Iwerddon, drwy sicrhau bod mwy o ddealltwriaeth o'u hanes. 

Yng Ngholeg y Brifysgol Cork, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford ar y prosiect cyffrous hwn. Mae'n brosiect sy'n ein galluogi i ymchwilio i ddiwylliannau, traddodiadau a hanes cysylltiedig Porthladdoedd Dulyn, Abergwaun, Caergybi, Rosslare a Doc Penfro, gan weithio i sicrhau bod eu treftadaeth gyffredin yn gallu dod i sbarduno twf economaidd.