Aeth Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford i Ddulyn yr wythnos ddiwethaf i gwrdd â Gweinidog Diwygio a Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe lle bu’r ddau’n trafod cynnydd rhaglen Iwerddon Cymru. Cadarnhaodd y Gweinidogion fwriad y ddwy Lywodraeth i’r cydweithio rhwng y ddwy wlad barhau ac i ddatblygu’r berthynas hon ar gyfer y tymor hir.

Dilynwch @irelandwales ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.