Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw [dydd Llun 17 Medi] yn cyhoeddi €4.3m o gyllid yr UE i ddatblygu systemau monitro morol uwch ym Môr Iwerddon.
 
Bydd y prosiect STREAM (Sensor Technologies for Remote Environmental Aquatic Monitoring) yn dod â phartneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon ynghyd i gael gwell dealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd; gostwng cost arsylwi morol a chyflymu'r broses o ddarparu data.
 
Mae'r prosiect gwerth £5.4m yn cael cefnogaeth drwy Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Iwerddon Cymru yr UE, ac yn cael ei arwain gan Sefydliad Technoleg Waterford, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Technoleg Corc.
 
Bydd STREAM yn datblygu synwyryddion sy'n medru darparu data amgylcheddol ar unwaith drwy bortholion ar y we, dyfeisiau symudol a synwyryddion wedi’u masgynhyrchu i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddiogelu a gwella dyfroedd Cymru ac Iwerddon. Bydd y data a gesglir yn cael eu rhannu'n lleol er mwyn i gymunedau arfordirol gael gwybodaeth am effaith leol y newid yn yr hinsawdd. 
 
Dywedodd yr Athro Drakeford:
 
"Mae'n hanfodol bwysig gwarchod amgylchedd morol Cymru ac Iwerddon er lles ffyniant economaidd a mwynhad. Dyma enghraifft ardderchog o'r ffordd mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi partneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon i helpu cymunedau i leddfu effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
 
Dywedodd Paschal Donohoe TD, Gweinidog Cyllid a Gwariant a Diwygio Cyhoeddus Iwerddon:
 
"Rwy'n falch iawn o weld lansiad prosiect arall wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Rhaglen Iwerddon Cymru. Mae'r cydweithrediad parhaus rhwng ein dwy wlad mewn meysydd fel ymchwil wyddonol yn cynnig manteision ar bob ochr.
 
"Mae'r newid yn yr hinsawdd yn her sy'n wynebu pob un ohonom, sy'n dangos pwysigrwydd cydweithredu ar draws ffiniau drwy brosiectau fel STREAM. Drwy ddeall mwy am effaith y newid yn yr hinsawdd fel hyn byddwn mewn gwell sefyllfa i'w herio yn y dyfodol, gan wella ansawdd ein moroedd am flynyddoedd i ddod."
 
Ychwanegodd Dr Joe O’Mahony, prif ymchwilydd Sefydliad Technoleg Waterford: 
 
"Mae Sefydliad Technoleg Waterford yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu’r maes hwn yn ein rhanbarth trawsffiniol.
 
"Mae'r buddsoddiad hwn yn adeiladu ar y gymysgedd unigryw o arbenigedd sy'n cael ei gynnig ar draws pob un o'r sefydliadau partner, ac fe fydd yn sicrhau bod y rhanbarth trawsffiniol yn parhau i fod yn esiampl i eraill am ei moroedd glân a chynhyrchiol.
 
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael gweithio gyda'n partneriaid yn Iwerddon ac yng Nghymru ar y gwaith cyffrous a phwysig hwn."