Mae €9.6m o gyllid yr UE ar gael ar gyfer cynigion trawsffiniol i gynyddu potensial asedau adnoddau naturiol a diwylliannol Iwerddon a Chymru i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chymunedau arfordirol.

Mae’r flaenoriaeth hon gan y rhaglen yn tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng yr economi a thwristiaeth, treftadaeth a’r amgylchedd naturiol. Mae’n dod ag arbenigedd o’r ddwy genedl ynghyd ar gyfer bodloni’r heriau sy’n cael eu rhannu ganddynt a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r ffin sy’n cael ei rhannu gennym ar Fôr Iwerddon.

Bydd angen i’r cynigion gynnwys un neu ragor o’r elfennau canlynol:

•           Sefydlu neu ddatblygu rhwydwaith, platfform, porthol neu strategaeth ar gyfer cydweithio

•           Trosglwyddo neu fabwysiadu gwybodaeth, arbenigedd, technolegau neu arferion gorau

•           Galluogi neu baratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddi yn dylunio, datblygu, treialu neu gyflawni prosesau, cynnyrch, astudiaethau neu wasanaethau newydd

•           Buddsoddi ar raddfa fach lle y gellir dangos bod yna werth ychwanegol trawsffiniol a chydymffurfedd ag amcanion y Rhaglen

Rhaid bod gan bob prosiect o leiaf un partner o Iwerddon ac un o Gymru gyda 6 partner yn cydweithio ar y mwyaf.

Mae canllawiau a dogfennau ategol ar gael isod.  

5pm ar 28 Gorffennaf 2017 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnig.

Dylai’r rheini sydd â diddordeb ymgeisio gysylltu â blwch post y rhaglen: IrelandWalesCrossBorderProgramme@wales.gsi.gov.uk

Lawlwytho dogfennau

  • Cais am Gynigion Echel Blaenoriaeth 3 – Adnoddau a Threftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol

    667.99 MB