Cyfarfu aelodau’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni yng Nghorc yr wythnos ddiwethaf i drafod hynt rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2020. Mae’r rhaglen drawsffiniol hon wedi cael €79m gan yr EU ar gyfer cryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy genedl drwy brosiectau megis Dŵr Uisce, sy’n cefnogi’r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon, a’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch.