Cynhelir cynhadledd flynyddol gyntaf Dŵr Uisce ddydd Gwener 27 Hydref, dan nawdd Prifysgol Bangor.

Thema’r gynhadledd yw Cynaliadwyedd Adnoddau Ynni a Dŵr: Ymchwil ac Arfer. 

Yn y digwyddiad bydd siaradwyr gwadd yn trafod pwysigrwydd gwerthfawrogi ein hadnoddau dŵr ac ynni o safbwynt technegol, cymdeithasol a llywodraethu, a ffyrdd o gadarnhau sicrwydd dŵr ac ynni yn y dyfodol.

Ceir rhagor o fanylion megis amserlen y gynhadledd, y siaradwyr ac opsiynau teithio a llety ar wefan Dŵr Uisce

Cofrestrwch yma.