19, 20, 21 Hydref 2021
 

Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad ar draws ffiniau CCAT cyntaf yn 2020, mae'n bleser gan dîm CCAT gyhoeddi ein hail ddigwyddiad cyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio rhithwir, Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Ynghyd (CCAT): Cyfnewid Gwybodaeth a’r Arferion Gorau Ar Draws Ffiniau 2021, i’w gynnal ar 19, 20 a 21 Hydref 2021. Yn ystod y digwyddiad y llynedd, bûm yn trafod bod cymunedau arfordirol ar flaen y gad gydag effeithiau newid yn yr hinsawdd, addasu, gwytnwch a phenderfyniadau a chynllunio rheoli arfordiroedd cysylltiedig. 
 
Gan dynnu ar adborth o'n digwyddiad cyntaf, rydym yn cydnabod bod angen trafod hyn yn bellach - mae cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y mae eraill yn ei wneud, ac i adeiladu ar arferion gorau sy’n bodoli mewn polisi a rheoli, ar gyfer rheoli arfordiroedd a newid yn yr hinsawdd. Trwy'r ail ddigwyddiad rhithwir hwn, a gyd-drefnir gan Brifysgol Caerdydd a'r tîm CCAT ehangach, byddwn yn dod ag ystod amrywiol o ymarferwyr ac academyddion ynghyd, gydag arbenigedd mewn llunio polisïau, rheoli arfordiroedd, addasu i’r newid yn yr hinsawdd, ymgysylltu â'r gymuned a mwy.  Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn croesawu siaradwyr sy'n cyflwyno ar ystod eang o bynciau gan gynnwys enghreifftiau o astudiaethau achos; myfyrdodau gan gymunedau sy'n profi effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyn o bryd; mentrau ar raddfa gymunedol, ac ymgysylltu â'r gymuned mewn rheoli arfordir ac addasu hinsawdd; datrysiadau ar sail natur; rôl technoleg wrth addasu a gwytnwch newid yn yr hinsawdd; ac yn olaf, byddwn yn arddangos peth o'r gwaith sy'n dod trwy'r prosiect CCAT.  Mae'r siaradwyr a gadarnhawyd yn cynnwys:

•    Hinsawdd Iwerddon
•    Hwb Morol Doc Penfro 
•    Canolfan Monitro Arfordirol Cymru 
•    Dr Verity Jones  
•    Dr Cormac Walsh (Ymgynghorydd Annibynnol)
•    Caroline Hickman (Prifysgol Caerfaddon)
•    Yr Athro Robin McInnes 


Byddwn yn diweddaru'r rhaglen ar ein gwefan dros yr wythnosau nesaf - i gael mwy o wybodaeth ewch i wefan CCAT. Mae gwybodaeth am gofrestru ar gael yma
 
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'n digwyddiad - os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm CCAT trwy Emma McKinley (Prifysgol Caerdydd) – mckinleye1@cardiff.ac.uk