Cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc Interreg (IVY) Ar Agor
Cyfleoedd Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd i ddarparwyr lle a gwirfoddolwyr
Mae rhaglen i wirfoddolwyr ifanc Interreg (IVY) yn rhoi cyfle i bobl ifanc 18-30 oed yn Ewrop wirfoddoli mewn rhaglenni a phrosiectau’r UE sy’n cael eu cynnal yn drawsffiniol, trawswladol neu’n rhyngranbarthol.
Bydd yn annog gwirfoddolwyr ifanc i hyrwyddo Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, ac yn cynyddu eu hymdeimlad o undod, ac o fod yn ddinasyddion Ewrop, a’u hannog i wneud cyfraniad.
Gwneud cais i ddarparu lle i wirfoddolwr
Os ydych chi’n rhedeg prosiect Interreg, gallech gynnig lle i wirfoddolwr yn eich sefydliad. https://www.interregyouth.com/programmes
I gael rhagor o wybodaeth: https://www.interregyouth.com/