Selkie ‒ (Datblygu llwybr masnacheiddio symlach ar gyfer y diwydiant Ynni Môr Cynaliadwy)

Gallai'r tonnau a'r llanw o amgylch Iwerddon a Chymru ddarparu llawer iawn o ynni carbon isel. Mae cwmnïau lleol sy'n adeiladu dyfeisiau i harneisio'r adnodd naturiol hwn yn creu swyddi ac yn allforio i bedwar ban byd eisoes. Fodd bynnag, un o'r rhwystrau sy'n llesteirio datblygiad yn y maes yw diffyg cyllid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ac ar gyfer treialu  prosiectau arddangos ar y môr. Un o'r rhwystrau eraill yw diffyg gweithdrefnau a chydrannau cyffredin (er enghraifft, angorau gwely'r môr), a'r ffaith bod llawer o gwmnïau technoleg yn gwneud yr un pethau mewn ffyrdd fymryn yn wahanol.



Felly, nodau'r prosiect yw:


1. Sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o BBaChau a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n gweithio ym maes Ynni'r Môr.   


2. Cynnal prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd rhwng y diwydiant a'r byd academaidd;


3. Trosglwyddo gwybodaeth a fydd yn deillio o waith ymchwil a datblygu i randdeiliaid/BBaChau sy'n gweithio yn niwydiant ynni'r tonnau a'r llanw, gan ddatblygu'r sector dechnoleg yn ei gyfanrwydd wrth wneud hynny;  


4. Cynorthwyo BBaChau Iwerddon a Chymru i symud yn eu blaen ar hyd yn llwybr masnacheiddio.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y prosiect
Coleg Prifysgol Corc 1,991,400 2,489,250
Prifysgol Abertawe 1,484,600 1,855,750
DP Energy Ireland Ltd 198,500 248,125
Gavin and Doherty Geosolutions 175,500 219,375
Menter Môn 182,500 228,125
Fforwm Arfordir Sir Benfro 183,500 229,375

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Corc
  • Dinas Dulyn

Cymru

  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Abertawe

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone
Dr Jimmy Murphy University College Cork Jimmy.murphy@ucc.ie
Dr Gordon Dalton University College Cork G.Dalton@ucc.ie
Prof Ian Masters Swansea University i.masters@swansea.ac.uk
Niamh Kenny DP Energy Ireland Ltd niamh.kenny@dpenergy.com
Paul Doherty Gavin and Doherty Geosolutions pdoherty@gdgeo.com
Dafydd Gruffydd Menter Mon dafydd@mentermon.com
David Jones Pembrokeshire Coastal Forum david.jones@pembrokeshirecoastalforum.org.uk