Cyllid gwerth €1.9m gan yr UE i gysylltu cymunedau yn Iwerddon a Chymru drwy straeon am y seintiau Celtaidd
Heddiw [Dydd Gwener 25 Ionawr], mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi prosiect newydd i ail-ddarganfod treftadaeth hudol y seintiau canoloesol cynnar, Dewi Sant a'i ddisgybl Sant Aidan.
Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn cael ei gofio yn ninas Tyddewi, lle treuliodd llawer o'i fywyd, tra bod gan Sant Aidan gysylltiadau agos â Wexford, a gyda thref Ferns yn arbennig. Yn ogystal â galluogi'r ddwy gymuned i ail-ddarganfod y dreftadaeth y maent yn ei rhannu, nod y prosiect yw defnyddio'r hanes hwn i ddenu ymwelwyr newydd i'r cymunedau arfordirol hyn.
Dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford, bydd y prosiect trawsffiniol hwn yn rhoi hwb i dwf economaidd yn y ddau ranbarth drwy waith adfywio, prosiectau diwylliannol ac addysgiadol a mentora rhwng busnesau.
Y gred yw i Sant Aidan deithio o Wexford i Sir Benfro i astudio dan adain Dewi Sant am nifer o flynyddoedd. Ysbrydolwyd Aidan gan y berthynas hon gyda'i fentor, a dychwelodd i Iwerddon i adeiladu ei fynachdy ei hun yn nhref Ferns. Mae gan Ferns a Thyddewi eglwysi cadeiriol sy'n hanesyddol bwysig: yr eglwys gadeiriol yn Ferns yw'r un leiaf yn Iwerddon, ac mae'r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi yn gyrchfan bwysig i dwristiaid.
Mae cynlluniau ar y gweill i adfywio ffynnon y Santes Non yn Nhyddewi, sef man geni Dewi Sant yn ôl y sôn, a bydd gweithiau celf parhaol yn cael eu comisiynu yn y ddwy ardal gyda themâu cyfatebol. Bydd ysgolion yn cymryd rhan mewn prosiect ar y cyd i adrodd stori'r ddau sant, a bydd cyfle i ddisgyblion ymweld â'r wlad bartner.
Dywedodd Jeremy Miles,
"Mae Cysylltiadau Hynafol yn esiampl wych o'r ffordd y gallwn ddefnyddio arian yr UE i helpu ardaloedd trawsffiniol yn Iwerddon a Chymru drwy annog ymwelwyr i ddarganfod mwy am yr hanes diddorol y mae'r ddwy wlad yn ei rannu. Rwy'n hynod o falch ein bod wedi gallu ariannu'r prosiect unigryw hwn sy'n dathlu cysylltiadau hynafol ein cymunedau.
“Drwy rannu gwybodaeth a phrofiad, ein gobaith yw y bydd hyn yn sbarduno'r economi ac yn creu ac yn diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth. Yng ngoleuni Brexit, mae hi nawr yn bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi ac yn dathlu'r ddolen Geltaidd gref rhwng y ddwy wlad.”
Dywedodd Gweinidog Cyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon, Paschal Donohoe TD:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad am brosiect arall wedi’i ariannu gan Raglen Iwerddon Cymru. Bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol yn hybu dealltwriaeth o’r hanes rydyn ni’n ei rannu ac yn cefnogi datblygiad twristiaeth er lles ein dwy wlad.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro:
"Rydym wrth ein boddau clywed bod ein cais i sicrhau grant Cysylltiadau Hynafol wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn fenter gydweithredol, gyda phartneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio gyda ni drwy gydol y broses ymgeisio. Gallwn nawr edrych ymlaen at dair blynedd o weithgareddau cyffrous ym maes diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a datblygu twristiaeth gymunedol yn Wexford a Gogledd Sir Benfro a fydd yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr o dramor, yn enwedig yn ystod tymhorau tawel y flwyddyn."