Prosiect UE newydd gwerth €9m i ehangu sector gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon
Bydd dros €9m o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd i ehangu’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru ac Iwerddon.
Caiff yr arian ei ddefnyddio i gefnogi rhaglenni ymchwil a datblygu mewn dros 240 o fusnesau bach a chanolig yn y ddwy wlad dros y pedair blynedd nesaf.
Bydd y rhaglenni’n rhan o’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru ac Iwerddon.
Bydd busnesau’n elwa drwy ffurfio partneriaethau ymchwil a datblygu gydag arbenigwyr o'r prifysgolion sy'n cymryd rhan, ynghyd â rhai o arweinwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes gofal iechyd, gan gynnwys Unilever a GE Healthcare.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan raglen gydweithredol Iwerddon-Cymru, sy'n ceisio cryfhau'r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy wlad ac ysgogi cydweithio trawsffiniol mewn meysydd megis arloesi, y newid yn yr hinsawdd, adnoddau naturiol a diwylliannol, treftadaeth a thwristiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
"Mae gwyddorau bywyd yn sector allweddol yng Nghymru ac Iwerddon. Bydd yr arian hwn yn cefnogi’r gwaith ymchwil a datblygu sy'n hanfodol er mwyn creu cynnyrch, technolegau a swyddi newydd.
"Mae'n newyddion gwych i dros 240 o fusnesau bach a chanolig ac rwy'n hynod o falch y bydd arbenigedd y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn cael ei rannu a'i ddefnyddio ledled y ddwy wlad."
Dywedodd Gweinidog Diwygio a Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe:
"Mae rhaglen Iwerddon-Cymru yn dangos sut y gall arian yr UE gyfrannu at gydweithio trawsffiniol llwyddiannus, fel yn yr achos hwn wrth i ni bontio'r ffin forol rhyngon ni â'r DU. Mae prosiect CALIN yn enghraifft ardderchog o'r ffordd y mae'r rhaglen yn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu mewn prifysgolion er budd busnesau o bob maint, sydd yna'n arwain at swyddi newydd a buddsoddiadau pellach mewn technolegau newydd.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn profi bod cyllid o dan raglen Iwerddon-Cymru yn parhau ac y gall y rheini sy'n elwa ar y rhaglen gynllunio'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Iwerddon yn cefnogi'r rhaglen ac yn ymroddedig i’w rhoi ar waith fel ei bod yn llwyddiant."
Drwy fod yn rhan o CALIN, bydd busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg arbenigol, yn ogystal â rhwydwaith o arbenigwyr a phartneriaid o’r diwydiant, gan gynnwys rhai sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi, y farchnad a’r rhai sy’n darparu gofal iechyd.
Nod y rhwydwaith yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu technolegau, cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd, fydd yn arwain at greu swyddi a buddsoddiadau pellach yn sector gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon.
Ynghyd â'r €9.3m o gyllid yr UE, mae'r rhwydwaith hefyd wedi cael ei ariannu gan €2.6m o goffrau’r prifysgolion sy'n cymryd rhan.
Dywedodd cyfarwyddwr CALIN Shareen Doak, sy’n athro ym Mhrifysgol Abertawe:
"Bydd y fenter hon yn cyfoethogi ein cronfa ymchwil ac yn gosod sylfaen fasnachol gadarn i wyddorau bywyd yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol.
"Un o'r prif amcanion fydd cefnogi partneriaethau fydd yn para ymhell ar ôl i'r rhaglen ddod i ben a sefydlu proses o greu cyfoeth y gall busnesau bach a chanolig sydd wedi'u cysylltu drwy'r rhwydwaith ddibynnu arni yn y dyfodol."