Canllawiau ar gyfer cynigion prosiect a phrosiectau wedi’u cymeradwyo ar gyfer Rhaglen Cymru Iwerddon 2014-2020
Mae cyfres o ganllawiau ar gael i’ch helpu i sicrhau eich bod yn datblygu’ch prosiect wedi’i ariannu gan yr UE, a’i gyflwyno.
Gydol oes y prosiect, bydd sefydliadau yn cael cymorth parhaus i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo i gyflwyno a bodloni ei nodau a’i dargedau.
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys:
- cyfarfodydd adolygu, bob chwarter fel arfer, i fonitro cynnydd y prosiect
- arweiniad parhaus ar y broses ar gyfer gwneud hawliadau ariannol
- gwiriadau i gynnwys agweddau gweinyddol, ariannol, technegol a ffisegol ar y prosiect
Darllenwch y Papur Trefniadau Cyflawni er mwyn ichi wybod yn union beth i’w ddisgwyl wrth ymgeisio am gyllid a chyflwyno eich prosiect.
THEMÂU TRAWSBYNCIOL
Rhaid i bob prosiect a gyllidir drwy raglen Iwerddon Cymru ymgorffori’r gweithgareddau y canolbwyntir arnynt wrth gyflwyno’r prosiect:
- cyfleoedd cyfartal a heb wahaniaethu
- datblygiad cynaliadwy
- cydraddoldeb rhwng merched a dynion
Bydd y Themâu Trawsbynciol hyn yn sicrhau bod manteision cronfeydd yr UE yn cael eu rhannu’n gynhwysol rhwng pobl a chymunedau yng Nghymru ac Iwerddon - gan wella ansawdd a gwaddol pob prosiect. Darllenwch Matrics y Themâu Trawsbynciol am ragor o wybodaeth.
MONITRO A GWERTHUSO
Mae’n bwysig cynllunio ar gyfer monitro a gwerthuso ar ddechrau eich prosiect er mwyn i chi allu dangos sut y byddwch yn rheoli datblygiad eich prosiect. Mae’n helpu i nodi pa mor effeithiol y bu eich prosiect o ran darparu ei nodau gwreiddiol (eeniferoedd y busnesau sydd wedi’u creu a sut y mae llawer o unigolion wedi elwa).
STATE AID
Darllenwch y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (GBER) sy’n darparu cymorth gwladwriaethol ar gyfer categorïau o gymorth sydd wedi’u heithrio o broses hysbysu ffurfiol y Comisiwn Ewropeaidd.
TARGEDAU A CHERRIG MILLTIR ALLWEDDOL
Mae'n ofynnol i sefydliadau sy'n cyflawni prosiectau a ariennir gan yr UE ddarparu data ar gynnydd prosiectau, gan gynnwys perfformiad yn erbyn targedau allweddol. Gallai’r rhain gynnwys nifer y bobl a busnesau sy’n cymryd rhan, a chanlyniadau fel y swyddi a gafodd eu creu neu gymwysterau a enillwyd.
Mae’r wybodaeth hon i’w chael yn y canllawiau yn y ddogfen ar ddiffiniadau dangosyddion, a gofynion o ran tystiolaeth a data.
Gellir gweld templed adrodd y Gronfa Ddata Mentrau yma.
Lawlwytho dogfennau
-
Rheolau a chanllawiau cymhwystra rhaglenni
1261.792 MB -
Monitoring and Evaluation Plan – Guidance document (Saesneg yn unig)
1205.592 MB -
Canllawiau modelau cyflawni
1220.77 MB -
Gwybodaeth a chyfarwyddiadau cyhoeddusrwydd
450.637 MB -
Papur trefniadau gweithredu
327.361 MB -
Canllawiau ar Ddiffiniadau Dangosyddion, a Gofynion o ran Tystiolaeth a Data
802.792 MB -
Public procurement guidelines (for Irish beneficiaries only) (Saesneg yn unig)
1624.183 MB -
Trefniadau hawlio – cyfarwyddiadau ar gyfer buddiolwyr arweiniol
1611.046 MB -
Dogfen gwybodaeth sy’n egluro sut mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ymdrin a data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddi
339.704 MB -
Matrics Themâu Trawsbynciol
669.219 MB -
Bwletin Hawliadau Terfynol
327.335 MB -
Canllawiau Arferion Gorau Paratoi i Derfynu Prosiect
443.956 MB -
Cwestiynau Cyffredin ar Derfynu Prosiectau
200.962 MB -
COVID 19 - Amodau ar gyfer Cymorth a Chwestiynau Cyffredin Fersiwn 7
940.1 MB -
Ymadael â’r UE - Y Cyfnod Pontio a’r Cyfnod Ar ôl Pontio: Cwestiynau Cyffredin
769.13 MB