More than a Club

Mae More than a Club yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon a’r fenter gymdeithasol o Gymru, Vi-Ability. 

Ei nod yw gweithio gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol lleol yng Nghymru ac Iwerddon i’w helpu i sefydlu mentrau cymdeithasol annibynnol a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol o fewn cymunedau dan anfantais. 

Bydd y prosiect yn rhoi’r grym i’r clybiau gydnabod a defnyddio pŵer deniadol pêl-droed a gwerth brand eu clwb yn lleol i ddatblygu partneriaethau ag asiantaethau statudol a grwpiau cymunedol i gyflawni rhaglenni cymdeithasol pwysig. 

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Football Association of Ireland €572,183 €715,229
Vi-Ability €453,350 €566,687

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Carlow
  • Corc
  • Dinas Dulyn
  • Dun Laoghaire/Rathdown
  • Fingal
  • Kerry
  • Kildare
  • Kilkenny
  • Meath
  • De Dulyn
  • Tipperary
  • Waterford
  • Wexford
  • Wicklow

Cymru

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Wrecsam

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone

Oriel