Bluefish

Bydd Bluefish yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o adnoddau morol Môr Iwerddon a’r Moroedd Celtaidd drwy lenwi’r blychau mewn gwybodaeth am effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a ragwelir ar bysgod a physgod cregyn masnachol penodol, gan ymchwilio i ba mor agored i niwed ydynt. Drwy drosglwyddo gwybodaeth, arbenigedd trawswladol, a’r arferion gorau o ran astudio a rheoli pysgod, pysgod cregyn a dyframaethu masnachol mewn cyd-destun o newid yn yr hinsawdd, a thrwy bartneriaeth gref y consortiwm sy’n canolbwyntio ar wyddor môr (4 sefydliad addysg uwch yn Iwerddon a Chymru, Sefydliad y Môr, a BIM), ein nod yw darparu strategaethau addasu ar gyfer y rhanbarth cyfan er lles cymunedau arfordirol. Bydd Bluefish yn asesu ac yn lledaenu gwybodaeth am risgiau a chyfleoedd ar gyfer pysgod a physgod cregyn masnachol, o dan effeithiau’r newid hinsawdd a ragwelir, ymhlith ein grwpiau o randdeiliaid, BBaChau, cymunedau arfordirol, a phartïon â diddordeb yn Iwerddon ac yng Nghymru, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a fydd yn apelio i’r holl sectorau.

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
Bangor University 1,462,733.60 1,828,417.00
Bord Iascaigh Mhara 491,062.86 613,828.58
Swansea University 1,125,501.86 1,406,877.32
Marine Institute 911,041.76 1,138,802.20
Aberystwyth University 790,668.15 988,335.19
University College Cork 814,414.52 1,018,018.15

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Carlow
  • Corc
  • Dinas Dulyn
  • Dun Laoghaire/Rathdown
  • Fingal
  • Kerry
  • Kildare
  • Kilkenny
  • Meath
  • De Dulyn
  • Tipperary
  • Waterford
  • Wexford
  • Wicklow

Cymru

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Wrecsam

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone