Beth yw Rhaglen Iwerddon Cymru?
Mae Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020 yn rhaglen forol sy’n cysylltu sefydliadau, busnes a chymunedau ar arfordir y Gorllewin yng Nghymru ag arfordir De-Ddwyrain Iwerddon.
Mae’r rhaglen yn un o deulu o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd sy’n cynnig cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE gydweithio i roi sylw i heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin.
Mae rhaglen Iwerddon Cymru’n canolbwyntio ar geisio datrysiadau i heriau ar y cyd ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon, i wella blaenoriaethau datblygu economaidd a chynaliadwy Cymru ac Iwerddon.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Arloesi ar draws ffiniau
- Addasu Cymunedau Môr Iwerddon ac Arfordirol i Newid Hinsawdd
- Adnoddau Diwylliannol a Naturiol a Threftadaeth
Ceir rhestr lawn o brosiectau yma. Ceir rhagor o fanylion am bob prosiect ar ein tudalen prosiectau.
Mae Llywodraeth Cymru’n rheoli’r rhaglen gyda phartneriaid, y Cynulliad Rhanbarthol Deheuol a’r Adran ar gyfer Gwariant Cyhoeddus a Diwygio.
Gwerth cyffredinol y rhaglen yw €100m, gan ddefnyddio €79m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd.
Rydym yn parhau i gynnal rhaglenni ariannu’r UE
Mae Erthygl 50 wedi’i hestyn, sy’n golygu y bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i gael holl hawliau a chyfrifoldebau un o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod yr estyniad hwn, mae sefydliadau’r DU yn parhau’n gymwys i wneud cais am gyllid, a dylai partneriaid mewn prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo barhau i gyflawni eu gwaith a chyflwyno ceisiadau am daliadau drwy gydol y cyfnod o estyniad.
Diben y cyfnod o estyniad yw sicrhau bod cytundeb ymadael yn ei le cyn inni ymadael â’r UE, ond pe bai diffyg cytundeb mae gwarant y llywodraeth yn dal mewn grym ar gyfer partneriaid mewn prosiectau yn y DU.
Ceir rhagor o wybodaeth am effaith Brexit heb gytundeb ar y rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, gan gynnwys rhaglen Iwerddon Cymru ar wefan Paratoi Cymru.
Rhaglen Iwerddon Cymru 2007-2013
Noder: Dylai partneriaid y prosiect fod yn ymwybodol bod y cyfnod cadw dogfennau ar gyfer Rhaglen Iwerddon Cymru 2007-2013 wedi pasio ers 5 Chwefror 2021.
Lawlwytho dogfennau
-
Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 dogfen gryno
590.375 MB -
Cronfeydd UE: Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 crynodeb i’r cyhoedd
1053.168 MB -
Taflen ffeithiau Iwerddon Cymru Ionawr 2017
480.359 MB -
Rhaglen gydweithredu tiriogaethol Iwerddon Cymru 2014 i 2020: gwerthusiad canol tymor
1562.335 MB -
Rhaglen gydweithredu tiriogaethol Iwerddon Cymru 2014 i 2020: gwerthusiad canol tymor (crynodeb)
736.931 MB