Digwyddiad
Digwyddiad lansio Acclimatize – cydnerthedd ar gyfer dyfroedd ymdrochi a chymunedau arfordirol yr UE
Ddydd Iau, 12 Hydref yn University College Dublin, cynhelir digwyddiad am ddim a fydd o ddiddordeb i unrhyw un sy’n gweithio ym maes rheoli dyfroedd ymdrochi.
Bydd prosiect Acclimatize yn helpu i wella ansawdd glannau moroedd Cymru ac Iwerddon, gan helpu i hybu twristiaeth a chefnogi gweithgareddau morol, gan gynnwys cynaeafu pysgod cregyn.
Dan arweiniad University College Dublin ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect yn nodi ffynonellau o lygredd a’u heffaith ar ddyfroedd ymdrochi o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth ariannol gwerth €5.3m gan raglen cydweithredu Iwerddon Cymru.
Lawlwytho dogfennau
-
Acclimatize launch invitation
486.594 MB