Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Cysylltiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru

Mae gan ein gwledydd hanes cyffredin ond mae gwahaniaethau mawr rhyngddynt hefyd. Mae gan borthladdoedd ar y ddwy ochr hanes cyffredin hefyd o gymhathu gweithwyr mudol o ddiwylliannau ac ieithoedd eraill. Mae'r prosiect hwn yn edrych ar ddiwylliannau'r ardaloedd o amgylch porthladdoedd Dulyn, Ros Láir, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, a'i nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y dreftadaeth honno, yn eu plith aelodau o'r cymunedau arfordirol eu hunain ac ymwelwyr, gan ddenu rhagor o ymwelwyr a gwella'r profiadau a gynigir iddynt. Wrth wneud hynny, bydd y prosiect yn rhoi mwy o allu i gymunedau arfordirol ddefnyddio'u treftadaeth naturiol a diwylliannol  i sbarduno twf economaidd.


Nod y prosiect yw dod â bywyd a lliw i'r porthladdoedd, gan wella'r profiad a gynigir i deithwyr modern o bob oedran, beth bynnag eu diddordebau, ac annog pobl i dreulio rhagor o amser ac i wario rhagor o arian yn y trefi hynny.    

Cyllideb

Partner ERDF (€) Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y prosiect
Coleg Prifysgol Corc 1,183,171 1,478,963
Cyngor Sir Loch Garman (Wexford) 200,816 251,020
CYMRU - Prifysgol y Drindod Dewi Sant 534,718 668,398
Prifysgol Aberystwyth 680,918 851,148

Lleoliad y Gweithgaredd

Iwerddon

  • Dinas Dulyn
  • Wexford

Cymru

  • Ynys Môn
  • Sir Benfro

Manylion cyswllt y Partneriaid

Name Organisation Email Telephone
Claire Connolly University College Cork claireconnolly@ucc.ie
Peter Merriman Aberystwyth University prm@aber.ac.uk
Mary-Ann Constantine University of Wales Trinity St David, Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies mary-ann.constantine@cymru.ac.uk
Dafydd Johnston University of Wales Trinity St David, Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies drjohnston@cymru.ac.uk
Billy Byrne Wexford Co Council Billy.Byrne@wexfordcoco.ie